Caffi Genomeg Cyhoeddus
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Public Genomics Cafe](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/1718433/Public-Genomics-Cafe-2019-11-5-15-22-21.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Ymunwch â ni ar gyfer y Caffi Genomeg yng Nghymru! Parc Genynnau Cymru a Chynghrair Geneteg y DU a Phartneriaeth Genomeg Cymru sy’n ei hariannu.
Bydd y Caffi yn gyfle hamddenol ac anffurfiol i gwrdd ag eraill a chael gwybod am ddatblygiadau newydd ym maes meddygaeth genomeg yng Nghymru. Bydd hefyd yn gyfle i bobl ddod ynghyd a rhoi gwybod i ni sut gallwn ni roi gwell cefnogaeth i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan gyflyrau prin neu enetig.
Yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio, bydd y Caffi yn croesawu siaradwyr gwadd, yn amlygu mentrau newydd ac yn rhoi cyfleoedd i lywio ein gweithgareddau yn y maes hwn.
Digwyddiad RHAD AC AM DDIM yw hwn, ond gofynnir i chi gofrestru drwy Eventbrite (gallwch hefyd alw heibio ar y diwrnod).
Café Caerdydd: https://tinyurl.com/yxvg3rkk
Cewch chi’r coffi cyntaf am ddim!
I gael rhagor o wybodaeth: ebostiwch walesgenepark@caerdydd.ac.uk neu emma@geneticalliance.org.uk
ffoniwch 02920 746940
Cynhelir y Caffi Genomeg mewn nifer o leoliadau o amgylch Cymru. Os oes diddordeb gennych mewn cael caffi yn eich ardal, cysylltwch ar bob cyfrif!
The Friary (off Queen Street)
(off Queen Street)
Cardiff
CF10 2PB