Rhai camdybiaethau am Charles Darwin a George Perkins Marsh
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae llawer o fythau ynghylch Charles Darwin (1809-1882) a’i gydoeswr Americanaidd George Perkins Marsh (1801-1882). O lyfr arfaethedig yr Athro Attfield ar hanes syniadaeth amgylcheddol, mae e wedi dewis darnau i enghreifftio rhai o’r mythau mwyaf diddorol.
Mae rhai’n credu bod gan Darwin ychydig iawn i’w gyfrannu (mewn gwaith fel The Origin of Species, 1859) i wyddor ecoleg ddiweddarach, ond camdybiaeth yw hyn. Mae llawer yn credu bod pobl grefyddol y DU yn erbyn Darwiniaeth ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyffredinol: myth arall. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn credu bod rhaid i Marsh, er iddo ysgrifennu Man and Nature (1864), fod wedi bod yn ddibwys a diddylanwad (myth arall), tra bod rhai’n credu iddo gynnal anthropoganologrwydd (un arall eto).
Yn y diwedd, mae’r Athro Attfield yn sôn am feirniadaeth gyfeillgar Marsh o Ddarwiniaeth: cytuno am natur, ond anghytuno am ddiwylliant (ac am fwydod). Yma, mae barn Marsh yn haeddu gwrandawiad gwell nag y mae’n ei gael fel arfer. Ynghylch y mwydod, daeth Darwin i gytuno yn y pendraw (ond ni wnaeth gydnabod Marsh erioed).
33 Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3BA