Ffiesta Ffuglen
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Yn rhan gyntaf y noson, bydd Patrick McGuinness, awdur Throw me to the Wolves, a Richard Gwyn, awdur The Blue Tent, yn sgwrsio am eu nofelau newydd gyda’r awdur a’r darlledydd Jon Gower.
Wedi’r egwyl, bydd y bardd arobryn Abigail Parry yn ymuno â ni i drafod ei chyfieithiadau o waith y bardd o Giwba, Legna Rodriguez Iglesias, ochr yn ochr ag Impossible Loves gan Darío Jaramillo o Golombia, a gyfieithwyd gan Richard Gwyn. Cadeirydd y digwyddiad hwn fydd Joey Whitfield.
Bydd gwin a danteithion bychain ar gael, trwy garedigrwydd ein noddwyr hirdymor, Deli a Gogo.
Cefnogir y FFIESTA FFUGLEN gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd.
The Old Library
18-19 Trinity Street
Cardiff
CF10 1BH