Gwasanaeth Coffa Prifysgol Caerdydd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae Diwrnod y Cadoediad ddydd Llun 11 Tachwedd 2019 a gwahoddir staff, myfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd i Wasanaeth Coffa’r Brifysgol ac i gymryd rhan mewn dwy funud o ddistawrwydd. Gofynnir i’r rhai sy’n dymuno bod yn bresennol gwrdd yn Oriel John Viriamu Jones (VJ), Prif Adeilad am 10:50am er mwyn i’r digwyddiad allu dechrau ar amser.
Arweinir y gwasanaeth gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, y Caplan Cydlynu, y Parchedig Delyth Liddell a Chaplaniaeth Aml-ffydd y Brifysgol.
Noder y bydd y mynediad i Oriel VJ o fynedfa’r Prif Adeilad ar Rodfa’r Bedol ar gau rhwng 10.50am - 11.20am a rhoddir mynediad o’r maes parcio yn ystod yr amser hwn i’r rhai a fydd yn mynd i’r Gwasanaeth Coffa yn unig. Ni fydd mynediad i’r oriel ar y llawr cyntaf o Oriel VJ yn ystod y Gwasanaeth a bydd mynediad i’r Llyfrgell Gwyddoniaeth wedi’i gyfyngu.
Ni fydd hyn yn effeithio ar y mynediad i’r Prif Adeilad drwy’r Ysgol Cemeg ac Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr.
Gofynnir yn garedig i staff a myfyrwyr sy’n defnyddio’r Prif Adeilad rhwng 10:50am ac 11:20am ar 11 Tachwedd gadw’r sŵn mor isel â phosibl.
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT