Ieithoedd Corfforol: Darlunio Eich Hunan Amlieithog
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Body Languages: Drawing Your Multilingual Self](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1708424/mlang.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Arweinir y digwyddiad hwn gan fyfyrwyr ac ymarferwyr a gymerodd ran mewn cyflwyno Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern, ar y cyd â disgyblion o Ysgol Willows High. Bydd y gweithdy’n cynnwys y gweithgareddau canlynol:
1. Pwy ydw i? – Mae’r gweithgaredd cyntaf yn gofyn i gyfranogwyr ystyried eu hunaniaeth a’r hyn sy’n cyfrannu at eu synnwyr o hunan. Bydd disgyblion yn ysgrifennu rhestr o bethau sy’n cyfrannu at eu hunaniaeth ar ddarnau bach o bapur, yn eu rhoi i mewn i falŵn ‘â border’ ac yna’n rhoi clec iddo – gan ryddhau eu hunan amlieithog.
2. Cyflwyno’r corff fel map – drwy gyfres o weithgareddau dramatig, byddwn yn annog cyfranogwyr i ystyried eu cyrff yn gyfryngau pwerus i adrodd straeon.
3. Darlunio – gofynnir i’r cyfranogwyr ddarlunio o gwmpas cyrff ei gilydd.
4. Cyfieithu’r corff – bydd cyfranogwyr yn trafod cyfieithu, a sut mae’n rhywbeth sy’n rhwym wrth ddiwylliant. Bydd hyn yn helpu pobl ifanc i fagu dealltwriaeth fwy o’u cysylltiadau â’u cyrff a rhannau eraill o’r byd. Yna, bydd cyfranogwyr yn mapio eu cysylltiadau’n greadigol â diwylliannau eraill ar ‘ddarlun’ eu cyrff, drwy ddefnyddio cyfuniad o ddarluniau a geiriau.
5. Gofynnir i’r cyfranogwyr gyflwyno eu straeon.
Bydd y drafodaeth bwrdd crwn yn canolbwyntio ar werthuso Prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern, a chasglu data ansoddol ynghylch effeithiau hirdymor cyfranogiad gan ysgolion de Cymru sydd wedi ymgysylltu â’r prosiect am dair neu bedair blynedd. Byddwn hefyd yn ystyried yr effaith ar ddiwylliant ehangach yr ysgol ynghylch Ieithoedd Tramor Modern, a gwneud argymelliadau am sut gall y prosiect gynnig cefnogaeth bellach.
Caiff 14 ysgol eu gwahodd i gyfrannu at y drafodaeth. Bydd gwahoddedigion eraill yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol, fel cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Arweinwyr Consortia dros Ieithoedd Tramor Modern, cynrychiolwyr o Adran Addysg Lloegr ac aelodau o Grŵp Llywio Dyfodol Byd-eang.
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS