Beth Sydd Wedi Digwydd? Ugain Mlynedd Ers Datganoli Ymarfer Cynllunio
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
I ddathlu Diwrnod Cynllunio Trefol y Byd mae’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn dwyn ynghyd uwch-gynllunwyr proffesiynol ac academyddion o bob cwr o bedair gwlad y DU, nod y digwyddiad hwn yw myfyrio ar yr hyn a ragwelwyd ar gyfer systemau cynllunio datganoledig y DU ugain mlynedd yn ôl, a’r hyn sydd wedi’i gyflwyno mewn gwirionedd. Wrth wneud hynny, bydd yn ceisio deall yn well y ffyrdd y mae ymarfer cynllunio, datganoli gwleidyddol, a chyd-destun hanesyddol wedi rhyngweithio i lywio deilliannau polisi, ystyried graddau symudedd polisi rhwng gwledydd dros y ddau ddegawd diwethaf, a dychmygu beth allai ddod yn y dyfodol.
* Cynhelir y digwyddiad hwn trwy gyfrwng y Saesneg.
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT