Lansio’r Wefan: Monitro a Gwerthuso
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
4.30-5.00pm: Derbyniad Diodydd yng Nghyntedd MLANG
5.00-6.00pm: Cyflwyno a thrafod y wefan yn MLANG 2.22
Digwyddiad i lansio gwefan Monitro a Gwerthuso (https://thetoolkit.me) yr Athro Gordon Cumming.
Mae’r safle wedi’i ddylunio i annog Sefydliadau Anllywodraethol, elusennau a sefydliadau gwirfoddol i gymryd rhan mewn monitro a gwerthuso. Yn aml, ystyrir bod Monitro a Gwerthuso yn rhy anodd, yn rhy ddrud ac yn cymryd gormod o amser. Fodd bynnag, mae’n rhaid i Sefydliadau Anllywodraethol wybod eu bod yn cael effaith gadarnhaol yn hytrach nag yn gwneud niwed.
Dyma rai o’r pwyntiau a fydd yn cael eu trafod yn ystod y cyflwyniad:
Mae’r wefan yn cynnwys llwybrau byr megis y Dull 1-2-3 sy’n helpu cymdeithasau i feddwl yn ‘arfarnol’
Ceir tiwtorial fideo a fydd yn cael ei gyfieithu i sawl iaith
Mae’n cynnwys adnoddau myfyrio i wirfoddolwyr yn ogystal â thempledi, geirfa, enghreifftiau ymarferol
Mae’n cynnwys pecyn y gellir ei lawrlwytho yn Gymraeg
Dylid gallu ei ddarllen yn hawdd ar ffôn symudol, tabled a dyfeisiau bwrdd gwaith. Felly gallwch ddefnyddio’r wefan pan fyddwch chi allan yn y maes!
Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch âmlang-events@caerdydd.ac.ukerbyn dydd Mercher 23 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.
Cofrestru: https://www.eventbrite.co.uk/e/website-launch-monitoring-evaluation-tickets-76877264969
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS