Rhentu nwyddau ail-law: Dyfodol treulio nwyddau?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i’r cyhoedd glywed am yr ymchwil ddiweddaraf sy’n trafod y cymhellion dros brynu a rhentu nwyddau ail-law, a’r rhwystrau rhag hynny. Bydd y gynulleidfa yn clywed gan fusnesau bach newydd sydd wedi ymroi i drechu gorddefnydd a gwastraff gormodol.
Bydd trafodaeth banel ryngweithiol gyda pherchenogion platfform ac ymchwilwyr academaidd yn annog cyfranogwyr i fyfyrio ar p’un a yw cynaliadwyedd yn chwarae rhan wrth iddynt brynu a defnyddio. Yn y pen draw, rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn ysbrydoli mwy o bobl i fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.
Ivor House
Bridge Street
Cardiff
CF10 2EE