Planhigion, iechyd a lles drwy'r oesoedd.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Plants](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/1703344/Plants-2019-10-15-15-47-21.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle prin i'r cyhoedd gael taith 'tu ôl i'r llenni' o archifau Sain Ffagan yn canolbwyntio ar waith yr ethnograffydd Anne Elizabeth Williams. Teithiodd hi o amgylch Cymru yn casglu gwybodaeth am feddyginiaethau llysieuol traddodiadol drwy gofnodi hanesion llafar a chyfrifon ysgrifenedig.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth fotanegol cyfranogwyr o’r planhigion gwyllt a’r rhai sydd wedi'u trin yng Nghymru trwy daith gerdded wedi’i thywys o gwmpas ystâd Sain Ffagan gyda llysieuydd cymwys.
Bydd ymwelwyr yn cael y cyfle i archwilio eu creadigrwydd yn y ‘labordy dychymyg’, a dysgu am rôl hanesyddol planhigion ar gyfer iechyd a lles gan ystod o arbenigwyr, gan gynnwys Dr. Laurence Totelin.
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac mae'n cynnwys cinio blasus.
St.Fagans National Museum of History
St Fagans
Cardiff
CF5 6XB