Ruined Skylines: Awdur yn cwrdd ag Adolygwr
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Yn Ruined Skylines: Aesthetics, Politics and London’s Towering Cityscape, mae Günter Gassner yn herio agweddau ceidwadol at drefoli cyfalafol er mwyn agor trafodaeth ehangach am sut bydd dinasoedd y dyfodol yn fyw ac yn hyfyw. Drwy ystyried y nenlinell fel gofod ar gyfer gwleidyddiaeth drefol radicalaidd, mae’n canolbwyntio ar y berthynas rhwng estheteg a gwleidyddiaeth yng nghyd-destun ffyniant adeiladau tal Llundain, ac yn datblygu beirniadaeth am adeiladu mwy a mwy o dyrau mentrus yn ogystal â beirniadaeth am yr honiad bod yr adeiladau hyn yn sbwylio nenlinell hanesyddol y ddinas. Mae Gassner yn dadlau bod angen difetha nenlinell y rhannau o’r ddinas sydd wedi’u troi’n nwyddau ac yn ganolfannau arian, ac mae’n gwneud achos dros adfywio gwleidyddiaeth drefol fel celfyddyd o’r posibl.
Manylion llawn am y llyfr: https://bit.ly/2kNMCDP
Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi llwyfan i Gassner drafod hyn â dau o bobl - Emma Fraser a Julian Brigstocke - sy’n arbenigo mewn daearyddiaeth drefol, damcaniaeth gymdeithasol ac athroniaethau gofodol.
Bydd derbyniad diodydd ar ôl y digwyddiad.
Mae Emma Fraser yn Ddarlithydd mewn Astudiaethau’r Cyfryngau a Diwylliant yn Adran Cymdeithaseg Prifysgol Caerhirfryn. Mae hi’n ymchwilio i ddinasoedd a’r cyfryngau digidol, damcaniaeth gritigol, Walter Benjamin a damcaniaethau murddunnod a chynnydd.
Mae Julian Brigstocke yn Ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd. Yn ei ymchwil, mae’n ystyried hanesion trefol, estheteg ôl-ddynol, argyfyngau awdurdodol a thrais.
Mae Günter Gassner yn Ddarlithydd mewn Dylunio Trefol yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd. Mae’n arbenigo mewn perthnasau rhwng estheteg a gwleidyddiaeth, hanes a phŵer, a gweledigaethau a dychmygion trefol.
* Cynhelir y digwyddiad hwn trwy gyfrwng y Saesneg.
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA