Y newid yn yr hinsawdd a llygredd aer: Goblygiadau ar gyfer symudedd trefol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0019/1701037/Traffic-2019-9-19-9-59-55.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae’n rhaid datrys y ddwy her i leihau allyriadau carbon a gwella ansawdd aer ar frys er mwyn i’n dinasoedd ddatblygu a gwella o ran ansawdd byw. Bydd y drafodaeth hon yn ystyried symudedd trefol o’r safbwynt hwn ac yn cynnig arweiniad i gynllunwyr dinasoedd ynghylch ffyrdd y gall cynlluniau ar gyfer trafnidiaeth y dyfodol a datblygiadau trefol fod o gymorth.
Bydd siaradwyr yn cyfrannu eu harbenigedd mewn 4 maes
- Diffinio graddfa’r problemau a’r goblygiadau ar gyfer iechyd y cyhoedd.
- Arolwg o drafnidiaeth a thueddiadau technolegol y dyfodol er mwyn deall y ffordd y bydd allyriadau carbon a materion o ran ansawdd aer yn esblygu.
- Arolwg o offer cynllunio trefol a thrafnidiaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, i leihau llygredd a thagfeydd wrth gynnal mynediad at wasanaethau’r ddinas.
- Profiadau dwy ddinas o’u hymdrechion i wella’r mesurau allweddol hyn, gan gynnwys amodau ar gyfer llwyddiannau a dibyniaethau. Bydd y ffyrdd y gellir addasu mynediad at ein dinasoedd i wneud gwelliannau sylweddol o ran allyriadau carbon, NOX (ocsid nitrus) a llygredd gronynnol, wrth wella effeithiolrwydd yr amgylcheddau cymdeithasol, masnachol, cyflogaeth a busnes, yn cael eu hystyried yn fanwl.
* Cynhelir y digwyddiad hwn trwy gyfrwng y Saesneg.
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA