Volancoes
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Bydd y gyfres fisol o ddarlithoedd nos Fawrth 2019–2020 Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr yn cael eu cynnal yn Narlithfa Wallace (0.13), Prif Adeilad, Prifysgol Caerdydd, Plas y Parc,
Caerdydd CF10 3AT. Mae’r darlithoedd yn dechrau am 18.30. Nid oes angen cadw lle. Os oes angen i chi gael y sesiynau Holi ac Ateb yn Gymraeg, ebostiwch edwardsd2@caerdydd.ac.uk o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad.
Oeddech chi'n gwybod bod y rhan fwyaf o echdoriadau folcanig - efallai hyd at 90% - yn digwydd o dan ddŵr ac nad ydym yn ymwybodol ohonynt i raddau helaeth? Mae yna lawer iawn nad ydym yn ei wybod am losgfynyddoedd, ond mae llawer o wybodaeth newydd gyffrous yn dod i'r amlwg o ymchwil barhaus. Bydd y gyfres hon o ddarlithoedd yn cwmpasu amrywiaeth llosgfynyddoedd, eu gweithrediad a'u cynhyrchion, ynghyd â natur ffrwydradau a'r problemau o ran eu rhagweld, ynghyd â'u heffeithiau amgylcheddol a biolegol yn y gorffennol a'r presennol.
2019
Medi 10 Echdoriadau enfawr. Steve Sparks, Prifysgol Bryste
Hydref 8 Campi Flegrei: Cawr aflonydd yr Eidal. Wim Degruyter, Caerdydd
Tachwedd 12 Adeiladu llosgfynydd. Jon Blundy, Prifysgol Bryste
Rhagfyr 10 Cyfrinachau Vulcan: byd cudd llosgfynyddoedd tanddwr. Chris MacLeod, Caerdydd
2020
Ionawr 14 Llosgfynyddoedd: o fentiau yn corddi i ddifodiannau torfol. Tamsin Mather, Gwyddorau’r Ddaear, Rhydychen
Chwefror 11 Rhagfynegiadau o ffrwydradau. Paul Cole, Prifysgol Plymouth
Mawrth 10 Cargo deimyntog gwerthfawr llosgfynyddoedd. Wolfgang Maier, Caerdydd
Ebrill 21 Cymdogion peryglus: byw ochr yn ochr â llosgfynyddoedd sy'n ffrwydro. Jenni Barclay, Prifysgol East Anglia
Mai 12 Llosgfynyddoedd a hanes dynol ryw. Caroline Williams a Cathy Cashman, Prifysgol Bryste
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT