Deietau iach o systemau bwyd cynaliadwy
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/1700870/public_lectures_thumb.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Dr Marco Springmann, Prifysgol Rhydychen
Nid yw ein system fwyd yn iach, nac yn gynaliadwy. Deiet anghytbwys yw'r prif ffactor risg ar gyfer marwolaethau yn y byd.
Ar y llaw arall, y sector cynhyrchu amaethyddol sy'n sail i'n deietau yw un o’r prif ffactorau sy’n sbarduno newid hinsawdd, newidiadau o ran defnydd tir a cholled bioamrywiaeth, diffyg dŵr croyw, yn ogystal â llygredd aer a dŵr.
Byddaf yn manylu ar yr effeithiau hyn, ac yn trafod atebion posibl, gan gynnwys newidiadau i ddeiet fel eu bod yn mwy seiliedig ar blanhigion, gostyngiadau mewn gwastraff bwyd, a newidiadau a gwelliannau technolegol mewn arferion rheoli. Byddaf yn amlygu sut mae pob gweithred ar hyd y gadwyn fwyd yn chwarae rôl wrth drawsffurfio ein system fwyd bresennol yn un sy'n aros o fewn terfynau amgylcheddol ac yn cyflwyno deietau iach ar gyfer poblogaeth sy'n tyfu.
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT