Diwrnod Ysgrifennu Grant RDCS
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![RDCS Grant Writing Day 2019](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/1560456/RDCS-Grant-Writing-Day-2019-2019-8-15-16-10-23.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
- Ydych chi’n weithiwr yn y GIG neu’n weithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru?
- A ydych yn bwriadu gwneud cais am gyllid ymchwil gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (fel RfPPB a Grant Gofal Cymdeithasol) neu ariannwr arall sydd â dyddiad cau ar gyfer eu cyflwyno yn yr hydref?
- A fyddech chi neu eich tîm yn elwa ar amser wedi’i neilltuo a chymorth arbenigol i ysgrifennu cais am arian o ansawdd uchel?
Dylai fod gennych amlinelliad clir ar gyfer eich syniad ymchwil gan mai nod y diwrnod ysgrifennu grant yw rhoi amser ysgrifennu pwrpasol i chi ar gyfer eich cais am grant-a chael cymorth arbenigol. Bydd ymgynghorwyr RDCS, sydd ag arbenigedd a phrofiad o ysgrifennu grantiau, dylunio a rheoli astudiaethau, dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol, (gan gynnwys ystadegau ac economeg iechyd) ar gael drwy’r dydd i gynnig cyngor ac adborth ynghylch eich ceisiadau unigol.
Bydd y Diwrnod Ysgrifennu Grant RDCS yn arbennig o addas i gynrychiolwyr a hoffai fod mewn sefyllfa i gyflwyno eu grant i gyllidwr yn ystod yr 1-3 mis nesaf. Bydd yn cynnig amgylchedd cefnogol i unigolion neu dimau o ddau neu dri o bobl (dylai o leiaf un ohonynt fod yn weithiwr gofal cymdeithasol neu iechyd proffesiynol sy’n gweithio yng Nghymru) er mwyn datblygu cynigion ymchwil o ansawdd uchel cyn gwneud cais i’r ffrydiau ariannu a adolygir gan gymheiriaid, megis RfPPB a’r Grant Gofal Cymdeithasol.
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, gan gynnwys cinio a lluniaeth.
Mae cyfyngiad llym ar nifer y lleoedd i wneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i siarad â'r ymgynghorwyr. Bydd angen i bob cynrychiolydd gofrestru’n unigol.
I gadw lle nawr: https://caerdydd.onlinesurveys.ac.uk/rdcs-grant-writing-event-september-2019
Polisi Canslo: Rhowch wybod i ni drwy ebost (rdcs@caerdydd.ac.uk) os ydych yn cadw lle ond yn methu dod yn y pendraw. Byddwn yn gallu cynnig eich lle i rywun arall os felly. Diolch yn fawr.
I gael rhagor o wybodaeth am y RDCS De-ddwyrain Cymru ewch i https://www.caerdydd.ac.uk/rdcs
University Hall
Heol Birchwood
Penylan
Caerdydd
CF23 5YB