Darllen Cyhoeddus - Mwy na lliw haul: sut y mae golau haul yn effeithio ar ein cyrff a’n meddyliau
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae ein bioleg yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r haul a’i gylch golau-tywyllwch 24-awr.
O iechyd ein hesgyrn, i’n cylchoedd cysgu, systemau imiwnedd, ac iechyd meddwl, mae mynediad at olau haul – a thywyllwch – yn hanfodol ar gyfer ein lles corfforol a meddyliol.
Wrth i ni symud fwyfwy tuag at ddinasoedd â llygredd golau, a threulio ein dyddiau mewn swyddfeydd tywyll a’n nosweithiau yn gwylio sgriniau llachar, rydym mewn perygl o golli’r cysylltiad hwnnw.
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT