Ysgol Busnes Caerdydd - Byddwn yn arddangos ein cyfres o Raglenni Gweithredol rhan-amser yn yr Ystafell Addysg Weithredol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yw datblygiad proffesiynol uwch-arweinwyr a darpar arweinwyr. Yn Ysgol Busnes Caerdydd, rydym wedi datblygu cyfres o raglenni gweithredol i helpu unigolion i wireddu eu potensial gyrfaol ac i sefydliadau fynd â’u gwasanaethau i’r lefel nesaf.
Mae ein portffolio o gyrsiau rhan-amser yn cynnwys MBA i Weithredwyr i wella eich perfformiad proffesiynol, a MSc sy’n canolbwyntio ar ymarfer mewn Adnoddau Dynol, wedi’i arwain gan academyddion sydd ar flaen y gad yn eu meysydd.
Byddwn hefyd yn arddangos ein MSc newydd mewn Arweinyddiaeth Gyhoeddus, rhaglen ran-amser ar gyfer ymarferwyr profiadol sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector, sy’n bwriadu cymryd y ‘cam nesaf’ tuag at fod yn arweinydd, ac ar gyfer y rhai hynny sydd eisoes yn y swyddi hyn yn chwilio am gymhwyster arwain a rheoli. Bydd y cwrs yn cael ei gynnal dros ddwy flynedd a chaiff ei gyflwyno fesul bloc o dri diwrnod gan ein tîm o academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol ac ymarferwyr profiadol o ystod o wasanaethau cyhoeddus, cyrff cynghori a melinau trafod. Gyda’n gilydd, byddwn yn datrys heriau yn y byd go iawn ar draws ystod o wasanaethau a sefydliadau, a bydd profiadau’r rhai ar y rhaglen yn ganolog i hyn. Yn ogystal â dysgu gan academyddion ac arbenigwyr, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn mynd i ddosbarthiadau meistr sy’n cael eu cyflwyno gan siaradwyr proffil uchel er mwyn datblygu a thyfu rhwydweithiau a rhannu gwybodaeth am strategaethau, arweinyddiaeth, arloesedd a newid.
Bydd hefyd modd i chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein hystod o gyrsiau byr ar feddwl masnachol, LEAN, Arweinyddiaeth a Gweinyddu Busnes a mwy, drwy ein tîm Addysg Weithredol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y rhaglenni cyffrous hyn, naill ar eich cyfer chi neu aelod o’ch tîm, ymunwch â ni dros luniaeth ddydd Mercher 4 Medi rhwng 5.30 – 7pm.
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU