Dysgu Cynrychiolaeth Semantig
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Dyma’r amserlen dros dro ar gyfer y gweithdy:
11:00-11:10 Croeso
11:10-12:20 Shay Cohen (Prifysgol Caeredin)
12:20-13:20 Cinio
13:20-14:30 Sebastian Riedel (Coleg Prifysgol Llundain)
14:30-15:40 Thomas Lukasiewicz (Prifysgol Rhydychen)
15:40-16:00 Egwyl coffi
16:00-17:00 Angelika Kimmig (Prifysgol Caerdydd)
Dysgu cynrychiolaeth yw’r dasg o drosi data o’u ffurf grai i ffurf sy’n fwy addas ar gyfer modelau dysgu peiriannol. O ystyried poblogrwydd dysgu dwfn, y dull mwyaf cyffredin yw dysgu sut mae mapio o eitemau data ar fector â dimensiynau sefydlog. Mae cynrychioliadau fector o’r fath yn cael eu defnyddio’n gyffredin wrth brosesu delweddau ac wrth brosesu iaith naturiol yn arbennig. Her arbennig, fodd bynnag, yw dysgu cynrychioliadau fector sydd, ar ryw ystyr, yn ystyrlon o ran semanteg. Ar y naill law, mae hynny’n hanfodol er mwyn galluogi modelau dysgu peirianyddol y gellir eu dehongli, nodwedd sy’n prysur ddod yn hollbwysig mewn llawer o gymwysiadau. Ar y llaw arall, mae angen cynrychioliadau sy’n ystyrlon o ran semanteg i ymgorffori gwybodaeth am y parth sydd eisoes yn bodoli (e.e. sy’n cael ei darparu gan arbenigwr ar y parth neu sydd ar gael o ryw sylfaen o wybodaeth), ac yn sgîl hynny bwydo gwybodaeth i fodelau dysgu peirianyddol.
Queen's Buildings
5 The Parade
Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 3AA