Cynhadledd Prifysgol Caerdydd ar Ddysgu & Addysgu 2019
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Yn cael ei gynnal gan y Ganolfan Arloesedd a Chefnogaeth Addysg, bydd Cynhadledd Prifysgol Caerdydd ar Ddysgu & Addysgu 2019 yn arddangos enghreifftiau o ‘Dysgu Dilys’ o bob rhan o Brifysgol Caerdydd.Mae’n bleser gennym groesawu'r Athro Daniella Tilbury, arbenigwr adnabyddus ym maes addysg gynaliadwy, i gyflwyno'r brif araith.
Thema'r diwrnod yw dysgu dilys. Tra bod profiadau dilys wedi bod yn rhan o brofiad myfyrwyr ers tro byd, mewn nifer o ddisgyblaethau sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol ag ymarfer proffesiynol, mae symudiad cynyddol ar draws addysg uwch i roi tasgau i bob myfyriwr sy'n efelychu a / neu'n helpu i'w paratoi ar gyfer bywyd ar ôl graddio. Gall rhoi'r cyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu â phroses ddysgu weithredol lle maent yn cronni gwybodaeth a datblygu sgiliau mewn cyd-destunau byd go iawn, gynnig ffyrdd mwy effeithiol o ddysgu a helpu i wneud yn siŵr eu bod wedi paratoi'n well ar gyfer byd gwaith. Mae cyflwyno ac asesu dysgu dilys mewn amgylchedd traddodiadol Prifysgol, a chael myfyrwyr i ymgysylltu'n llwyddiannus â hynny yn gofyn am newid y modd rydym yn cynllunio a chynnal gweithgareddau dysgu ac addysgu. Nod y gynhadledd hon yw rhannu'r gwersi a ddysgwyd, ac arferion gorau, gan gynnwys enghreifftiau go iawn o'r 'hyn sy'n gweithio' o fewn thema dysgu dilys.
Is-themâu:
- Datblygu cyflogadwyedd
- Datblygu dinasyddion byd-eang
- Datblygu amgylcheddau dysgu / cymunedau sy'n ymgysylltu
- Datblygu gweithgareddau dysgu / profiadau dysgu dilys
- Datblygu asesiadau dilys
Bydd manylion cofrestru ar gyfer gweithdai a chyflwyniadau yn cael eu dosbarthu yn agosach at yr amser.
Cardiff University Main Building
Park Place
Cardiff
CF10 3AT