Prifysgol Caerdydd - Cyd-Greu Mewnwelediadau Ymchwil (Gwerth Cyhoeddus)
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Co-Creating Research Insights](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0003/1517484/Co-Creating-Research-Insights-2019-6-20-10-20-8.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Cynhadledd Undydd
Bydd ein haf prysur o raglenni yn parhau ar Ddydd Llun Gorffennaf 1af am 10.30am, pan fyddwn yn estyn croeso i Kirsty Williams, AC, Y Gweinidog Addysg, i’r Ysgol Busnes, i drafod beth y mae Gwerth Cyhoeddus yn ei olygu iddi hi, a sut y gall Prifysgolion chwarae eu rhan i wella lles Cymru. Byddwn hefyd yn egluro sut y mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth, a byddwn yn clywed gan bobl a sefydliadau ynglŷn â’r hyn y mae’r gwaith yma yn ei olygu iddyn nhw. Bydd y siaradwyr yn cynnwys Prof. Rachel Ashworth, Prof. Calvin Jones, Prof. Martin Kitchener, Prof. Melanie Jones, Prof. Vicki Wass, Dr Alison Parken OBE, Prof. Ed Heery, Dr Jon Gosling and Prof. James Downe.
Bydd yr achlysur yn dod i ben gyda derbyniad gwin tua 4.00pm, pan fydd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn lansio ein llyfr newydd, sydd yn archwilio Gwerth Cyhoeddus.
Rwy’n atodi copi o’r agenda cyfan. Dilynwch y linc hon er mwyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad.
Rhodfa Colum
Canolfan Dysgu Graddedigion
Caerdydd
CF10 3EU