Deall sut i Dyfu: Sut ddyfodol sydd i sgiliau garddwriaethol yn y DU? gan Hannah Pitt
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Bydd y seminar hwn yn cyflwyno canfyddiadau cynnar o'r prosiect Deall sut i Dyfu sy'n ystyried sut i fodloni gofynion gwybodaeth ar gyfer cadwyni cyflenwi bwyd y dyfodol.
Mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar ddefnyddio cynhyrchu garddwriaethol i lywio strategaethau i wella diogelwch bwyd yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y cyflwyniad yn ystyried: Beth yw'r broblem gyda sgiliau garddwriaethol? Beth yw'r achosion? Pam na lwyddwyd i fynd i'r afael â hwy? Mae'r seminar yn dilyn y gweithdy cyntaf i randdeiliaid y prosiect a bydd yn rhannu uchafbwyntiau'r digwyddiad diweddar hwn.
Mae seminarau Mannau Cynaliadwy yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb.
33 Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3BA