Tystiolaeth Amgylcheddol 2019 - Tystiolaeth Forol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Image of bottle nose dolphin in the water](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/1506098/Bottle-Nose-Dolphin,-courtesy-of-Visit-WalesCrown-Copyright.-2019-6-3-11-50-15.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
I gefnogi lansiad Strategaeth Tystiolaeth Forol Cymru, bydd Llwyfan Morol Cymru yn cynnal tri diwrnod o gyflwyniadau, gweithdai a grwpiau trin a thrafod ymchwil, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Phrifysgol Abertawe.
Helpwch ni i greu consensws ynghylch sut y gallwn ni sicrhau cynaliadwyedd ecolegol, cymdeithasol ac economaidd ein hamgylchedd morol ac arfordirol - hoffem ni weld y darlun cyflawn.
Croesewir cynadleddwyr o fyd ymchwil, diwydiant, y cyhoedd a’r trydydd sector.
I ymchwilwyr
- Ehangu eich rhwydwaith
- Datblygu prosiectau ymchwil cydweithredol
- Cael yr effaith fwyaf posibl drwy fynd i’r afael â blaenoriaethau tystiolaeth
I’r sector cyhoeddus
- Cwrdd â darparwyr tystiolaeth
- Llywio blaenoriaethau ymchwil
- Cydweithio ar ddatblygu prosiectau
I ddiwydiant
- Cipolwg ar ddatblygiadau polisi
- Cyfrannu at drafodaethau ynghylch rheoleiddio, llywodraethu, rheoli a monitro
- Rhwydweithio â phartneriaid ymchwil posibl
I’r trydydd sector
- Cynrychioli buddiannau eich sefydliad
- Cyfrannu at drafodaethau ynghylch rheoleiddio, llywodraethu, rheoli a monitro
- Rhwydweithio â phartneriaid ymchwil posibl
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Abertawe!
Fabian Way
Swansea
Swansea
SA1 8EN