Digwyddiad RDCS: Blociau Adeiladu Cais Cystadleuol am Grant
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![RDCS South East Wales logo](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0003/1495416/RDCS-South-East-Wales-logo-2019-5-14-15-49-6.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Bydd y diwrnod yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar geisiadau llwyddiannus am grantiau er mwyn ariannu ymchwil yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol. Byddwn yn trafod sut i lunio cais o safon uchel am grant, ac yn defnyddio enghreifftiau o grantiau ac adborth gan baneli ariannu i ddangos sut i gynyddu eich tebygolrwydd o lwyddo gymaint â phosibl.
Cewch gipolwg ar rai o elfennau allweddol cais. Bydd y diwrnod yn gymysgedd o gyflwyniadau a gweithgareddau ymarferol a byddwn yn trafod cynlluniau ymchwil, crynodebau lleyg, economeg iechyd a mewnbwn gan Ymchwil a Datblygu Caerdydd a’r Fro. Bydd ymgynghorwyr RDCS, sydd ag arbenigedd a phrofiad o ysgrifennu grantiau, dylunio a rheoli astudiaethau, dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol, ystadegaeth ac economeg iechyd, ar gael i gynnig cyngor ac adborth ynghylch eich prosiect unigol.
I weld beth gafodd ei drafod yn nigwyddiad y llynedd, darllenwch y blog hwn http://blogs.cardiff.ac.uk/centre-for-trials-research/making-research-funding-applications-for-the-nhs-and-social-care/
Faint mae’n ei gostio?
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, gan gynnwys cinio a lluniaeth.
I gael mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Dylunio a Chynnal Ymchwil (RDCS) yn Ne Ddwyrain Cymru, ewch i https://www.cardiff.ac.uk/cy/centre-for-trials-research/research/research-design-and-conduct-service
Mae cyfyngiad llym ar nifer y lleoedd i wneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i siarad â'r ymgynghorwyr. Rhaid cadw lle ar-lein.
Polisi canslo: Rhowch wybod i ni drwy ebost (rdcs@caerdydd.ac.uk) os ydych yn cadw lle ond yn methu dod yn y pendraw. Byddwn yn gallu cynnig eich lle i rywun arall os felly. Diolch yn fawr.
University Hall
Penylan
Cardiff
CF23 5YB