Adeiladu Clwstwr Creadigol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Creative Clwstwr](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/1488663/Creative-Clwstwr-2019-5-2-14-48-46.png?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
O le daw creadigrwydd a pham ei fod mor bwysig i economi, diwylliant a hunaniaeth dinas? A sut gallwn ni ddatblygu, cefnogi a meithrin y creadigrwydd hwn er mwyn adeiladu clwstwr cryf ac arloesol o fusnesau'r diwydiannau creadigol?
Yn 2014 sefydlwyd yr uned Economi Creadigol gan Brifysgol Caerdydd er mwyn deall, ymgysylltu a galluogi'r economi creadigol yn yr ardal. Ers hynny, mae De Cymru wedi bod yn rhan o dwf byd-eang y sector creadigol. Y diwydiannau creadigol sy’n tyfu’r gyflymaf yn sgil economi’r Deyrnas Unedig. Mae'n werth fwy na £100biliwn o ran Gwerth Ychwanegol Crynswth, gydag un mewn pob 11 swydd yn rôl greadigol. Yng Nghymru mae data Llywodraeth Cymru yn dangos bod cyflogaeth yn y diwydiannau creadigol wedi tyfu gan bron i 95% yn y ddegawd rhwng 2006 a 2016.
Un o gyfrifoldebau’r uned oedd datblygu ffyrdd i unigolion proffesiynol creadigol allu cydweithio. Yn 2015, sefydlwyd rhwydwaith Caerdydd Creadigol a bellach mae ganddo fwy na 2500 o aelodau, yn amrywio o benseiri i animeiddwyr, o’r rheiny o fyd crochenwaith i ôl-gynhyrchu. Bwriad y rhwydwaith yw tynnu sylw at gyfleoedd swyddi, creu cysylltiadau rhwng gweithwyr creadigol trwy gyfres o ddigwyddiadau ac annog arloesedd ar draws y sectorau creadigol.
Ar gyfer ein sesiwn Briffio Brecwast mis Mehefin, bydd Cyfarwyddwraig yr Economi Creadigol Sara Pepper yn rhannu sut - trwy bartneriaethau gyda phrifysgolion y ddinas a’r diwydiant - y gwnaeth yr uned ddatblygu ac ennill cais llwyddiannus am gyllid Strategaeth Ddiwydiannol trwy’r Rhaglen Clwstwr Diwydiannau Creadigol cystadleuol.
Mae’r fenter newydd – Clwstwr – yn bartneriaeth gyda Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd gydag ymrwymiad llywodraeth leol a rhyngwladol, asiantaethau strategol a phrif ddarlledwyr Cymru. Mae’n gywaith uchelgeisiol, er mwyn galluogi'r diwydiant i greu cynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau newydd ac arloesol sy’n perthyn i sgrîn gyda’r nod o gyflawni twf economaidd.
Archebwch eich lle er mwyn cael gwybod mwy a chwarae rhan mewn rhoi arloesedd wrth galon cynhyrchu cyfryngau yn Ne Cymru.
Canolfan Dysgu Graddedigion
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU