Clwb Tai Chi 2019
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Tai Chi Club 2019](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0010/1488340/Tai_Chi_for_Web.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae Tai Chi Tsieineaidd yn fath hynafol a phrydferth o gelf yn ogystal â ffordd o gadw’n iach. Datblygwyd yn wreiddiol fel crefft ymladd, ond mae Tai Chi yn cael ei ymarfer ar draws y byd erbyn hyn i hyrwyddo iechyd a lles gan ei fod yn cyfuno anadlu’n ddwfn ac ymlacio gyda symudiadau llifol.
Ymunwch â ni mewn cwrs Tai Chi Tsieineaidd pedair wythnos o hyd lle byddwn yn eich cyflwyno i hanes Tai Chi yn ogystal â’i ddefnydd modern. Yn ystod y cwrs byddwch yn meithrin dealltwriaeth o rai o’r ystumiau sylfaenol o ddefnyddir yn Tai Chi a’r ystyr y tu ôl iddyn nhw. Cynhelir sesiwn ymarferol bob wythnos i roi’r cyfle i chi wella eich techneg. Cynhelir y cwrs ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Sadwrn 18 Mai, 1pm-2pm, Llyfrgell Treganna
- Dydd Sadwrn 25 Mai, 1pm-2pm, Llyfrgell Treganna
- Dydd Sadwrn 1 Mehefin, 1pm-2pm, Llyfrgell Treganna
- Dydd Sadwrn 8 Mehefin, 1pm-2pm, Llyfrgell Treganna
Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael, felly cysylltwch â’r llyfrgell i gadw lle (029 2078 0999 / cantonlibrary@cardiff.gov.uk). Codir tâl bychan o £2 y sesiwn.
Library Street
Treganna
Caerdydd
CF5 1QD