All About Almodóvar: Cyfweliadau, Sylwadau a Dadansoddi
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Darlith gan yr Athro Maria M. Delgado (Royal Central School of Speech and Drama, Llundain). Bydd papur yr Athro Delgado yn trin a thrafod tair blynedd ar ddeg o gydweithio gyda Pedro Almodóvar. Gyda chydweithrediad Swyddfa Materion Diwylliannol a Gwyddonol Llysgenhadaeth Sbaen yn Llundain.
Crynodeb
Yn y papur hwn, caiff tair blynedd ar ddeg o gydweithio gyda Pedro Almodóvar eu harchwilio. Bydd yn edrych ar y ffyrdd mae ymgysylltu'n uniongyrchol gyda'r bobl sy'n 'gwneud' diwylliant yn gallu cynorthwyo gyda deall sut caiff y diwylliant hwnnw ei greu a'i werthfawrogi. Gan archwilio cyfweliad fel methodoleg, gobaith yr Athro Delgado yw darlunio sut mae'n cynnig safbwyntiau gwahanol ar ddarn o waith, gan gynnig ffyrdd o amlygu proses a chrefftwaith, dadelfennu a dyrannu rhai o'r moddau y caiff darn o ymarfer creadigol ei adeiladu, datod cyfraniadau'r rheini sy'n ffurfio'r brand cyfarwyddol, a holi beth sy'n ddealladwy i wahanol gynulleidfaoedd. Mae'r papur hwn yn fyfyrdod ar foddau o weld a ffyrdd o weithio, ac mae hefyd yn cynnig myfyrdodau ar sylwebaethau Almodóvar ei hun ar ei waith a sut mae'r rhain yn cynnig ffenest unigryw ar ei ffilmiau. Bydd yr Athro Delgado'n gorffen gyda thrafodaeth fer ar ei ffilm ddiweddaraf, Dolor y Gloria, ar sail ei sgyrsiau gydag ef a'i harsylwadau ar y set wrth iddo saethu'r ffilm yn 2018.
Bywgraffiad
Mae Maria M Delgado yn academydd, beirniad a churadur. Athro a Chyfarwyddwr Ymchwil yn y Royal Central School of Speech and Drama, Llundain. Mae hefyd yn Gymrawd Er Anrhydedd y Sefydliad Ymchwil Ieithoedd Modern yn yr Ysgol Uwchefrydiau ym Mhrifysgol Llundain. Mae wedi cyhoeddi'n eang ym maes theatr a ffilm Sbaeneg, gan gynnwys Federico García Lorca (Routledge, 2008), ‘Other’ Spanish Theatres (Gwasg Prifysgol Manceinion, 2003, argraffiad Sbaeneg diwygiedig ac ehangedig a gyhoeddwyd gan Iberoamericana Vervuert, 2017), a deg o gyfrolau a gyd-olygwyd gan gynnwys Contemporary European Theatre Directors (Routledge, 2010), A History of the Theatre in Spain (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2012), Spanish Cinema 1973-2010: Auteurism, Politics, Landscape and Memory (Gwasg Prifysgol Manceinion 2013), ac A Companion to Latin-American Cinema (Wiley-Blackwell, 2017). Mae ei gwaith ffilm yn cynnwys dros 20 mlynedd fel ymgynghorydd rhaglen ar sinema Sbaeneg a Sbaeneg-Americanaidd i Ŵyl Ffilm Llundain, a gwaith curadu/rhaglennu i Ciné Lumière, ICA a BFI Southbank.
Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 2 Mai i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.
Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.
Canolfan Addysgu Ôl-raddedig
Colum Drive
Caerdydd
CF10 3EU