Arddangosfa: 50 Mlynedd o Innovate Trust
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae Innovate Trust yn dathlu eu pen blwydd yn 50 eleni. Mae’r elusen annibynnol hon wedi newid bywydau nifer o bobl anabl ar draws y byd – a dechreuodd y cwbl yma, ym Mhrifysgol Caerdydd. Eleni, mae gwirfoddolwyr sy’n anabl wedi bod yn chwilota yn hanesion cynnar y sefydliad, i’w rhannu mewn arddangosfa newydd.
Swyddogaeth Innovate Trust yw i gefnogi oedolion gydag anableddau dysgu, anableddau corfforol, nam ar synnwyr neu gyflwr iechyd meddwl. Mae’n nhw’n cyflenwi gwasanaethau cartrefi cefnogol, yn ogystal â hyfforddiant, cyfleoedd gwaith a chyfleoedd i gymdeithasu.
Dechrau’r daith ar gyfer yr elusen oedd fel prosiect o’r enw ‘Cardiff University Social Services’, ac ers ei sefydlu, mae wedi datblygu i fod yn gorff yn hynod o ddylanwadol, sydd wedi brwydro dros hawliau ac urddas pobl anabl.
Llyfrgell y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU