Mapping US megaregions: Open access, open data, open research
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Yn y cyflwyniad byr hwn, bydd Alasdair Rae yn trafod yr effeithiau sy’n codi o wneud ymchwil ‘agored’ drwy enghraifft o fapio patrymau cymudo yn rhanbarthau enfawr yr UDA.
Er mai rhaniad o 50 talaith yw’r ffordd gyffredin o feddwl am yr UDA, mae daearyddwyr dros yr hanner canrif ddiwethaf wedi bod yn astudio rhwydweithiau o ardaloedd metropolitan sydd â chysylltiad agos, a elwir yn ‘rhanbarthau enfawr’, sy’n aml yn torri ar draws ffiniau taleithiau. Mae rhanbarthau enfawr wedi’u nodi yn y gorffennol fel dull deongliadol sy’n cysylltu rhanbarthau metropolitan mawr drwy systemau amgylcheddol ac isadeileddau tebyg, cysylltiadau economaidd a thebygrwydd diwylliannol. Mae’r ymagweddau hyn yn aml yn seiliedig ar ‘ddyfaliad gorau’, ac nid ydynt yn dibynnu ar ddadansoddiad o setiau data mawr.
Erbyn hyn, mae Dr Alasdair Rae a’i gyd-awdur Dr Garrett Nelson wedi datblygu dull empirig o nodi rhanbarthau mawr gan ddefnyddio set data o dros 4 miliwn o ‘lifoedd cymudo’. Mae hyn yn ymwneud â phatrymau teithio i’r gwaith 130 miliwn o Americanwyr sy’n defnyddio offer côd agored i ddadansoddi data. Y gobaith yw y bydd yr ymchwil yn cynnig sail ar gyfer ymagweddau cysyniadol pellach i astudio rhanbarthau mawr, a galluogi gwneuthurwyr polisi mewn ardaloedd sy’n cynnwys isadeiledd, cynllunio tramwy a daearyddiaeth etholiadol i fesur sut y maent yn mynd i’r afael â’r ardaloedd terfyn.
Yn y cyflwyniad hwn, bydd yr Athro Rae yn myfyrio’n benodol ar stori ymchwil agored. Hynny ydy, gwneud ymchwil sydd heb ei chuddio y tu ôl i wal dalu a lle mae’r data sylfaenol ar gael yn rhydd i unrhyw ei ddefnyddio. Yn hyn o beth, mae cyfleusterau digidol yn enghraifft dda o’r posibiliadau a’r deilliannau newydd sy’n gysylltiedig â chael ymagwedd mwy agored at ysgolheictod. Defnyddiwyd cwmwl cyfrifiadura Gwasanaethau Gwe Amazon ganddynt ac ysgrifennwyd y papur ar y cyd ar Google Docs. Nid ydynt erioed wedi cwrdd. Mae’r papur sy’n seiliedig ar y cyflwyniad wedi’i ddarllen dros 250,000 o weithiau bellach ac wedi cael sylw mewn storïau yn y cyfryngau ledled y byd.
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA