Ewch i’r prif gynnwys

Recordiadau o ddigwyddiadau blaenorol

Gallwch chi ddal i fyny â digwyddiadau blaenorol cyfres Sgyrsiau Caerdydd drwy wylio recordiadau'r digwyddiad.

Iechyd Meddwl ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol gyda Dr Alex George

Heriau cymdeithasol yw iechyd meddwl ac anhwylderau'r ymennydd. Mae 1 o bob 12 o bobl ifanc yn y DU yn dioddef o anhwylder gorbryder neu iselder, ac mae 75% o broblemau iechyd meddwl yn dechrau cyn eu bod yn 18 oed.

Ar 8 Mai 2024, estynnon ni groeso i’r cyflwynydd, yr awdur poblogaidd a Llysgennad Iechyd Meddwl Ieuenctid y llywodraeth, Dr Alex George, i siarad am ei brofiad proffesiynol a phersonol o heriau iechyd meddwl, gan bwysleisio ei ymrwymiad i gael gwared â’r stigma sy’n perthyn iddo.

Y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl gynhaliodd y digwyddiad.

Llywio Dadwybodaeth: Pwy Ddylem ni Ymddiried Ynddo? gyda Babita Sharma

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae byd newyddion a gwybodaeth wedi mynd yn fwyfwy anodd mynd i’r afael ag ef. Mae cynnydd newyddion ffug a lledaenu chwim twyllwybodaeth a chamwybodaeth yn y cyfryngau cymdeithasol yn erydu ymddiriedaeth mewn sefydliadau, yn rhannu cymunedau ac yn niweidio democratiaethau. Rydyn ni’n gweld miliynau o ddarnau o wybodaeth bob dydd ond sut rydyn ni'n gwybod pwy y dylen ni ymddiried ynddo, a pha sgiliau sydd eu hangen arnon ni i gadarnhau'r ffeithiau sy'n cael eu cyflwyno inni? A phwy sy'n gwneud y penderfyniadau yn y ffynonellau a’r gwefannau newyddion rydyn ni'n dibynnu arnyn nhw?

Ar 23 Hydref 2024, cawson ni gwmni’r ddarlledwraig a’r gyn-fyfyrwraig o Brifysgol Caerdydd, Babita Sharma (BA 1998), a fu’n trafod ei phrofiadau o fod yn newyddiadurwraig ac yn gyfwelydd yn oes newyddion ffug a deallusrwydd artiffisial, sut mae'n taflu goleuni ar y rheini mewn grym sy’n ceisio lledaenu twyllwybodaeth, a pham mae’n gyfrifoldeb ar bawb i ymateb yn feirniadol i’r naratifau a gynigir inni.

Cynhaliwyd y digwyddiad hwn gan y Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Troseddau a Chudd-wybodaeth.