Ewch i’r prif gynnwys

Sgyrsiau Caerdydd

Yng nghyfres darlithoedd ymchwil Sgyrsiau Caerdydd, bydd siaradwyr gwadd amlwg yn trin a thrafod yr ymchwil sy’n cael ei gwneud ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Caerdydd, a hynny er mwyn trafod yr heriau pwysig sy'n wynebu’r gymdeithas a sut y gallwn ni eu datrys.

Yn ein sgwrs gyntaf, a gynhaliwyd ar 8 Mai 2024, daeth y cyflwynydd, yr awdur poblogaidd a Llysgennad Iechyd Meddwl Ieuenctid y llywodraeth, Dr Alex George, aton ni i siarad am ei brofiad proffesiynol a phersonol o heriau iechyd meddwl, gan bwysleisio ei ymrwymiad i gael gwared â’r stigma sy’n perthyn iddo. Y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl gynhaliodd y digwyddiad.

Yn yr ail ddigwyddiad, a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2024, cawson ni sgwrs gan y ddarlledwraig a’r gyn-fyfyrwraig o Brifysgol Caerdydd, Babita Sharma (BA 1998), a fu’n trafod ei phrofiadau o fod yn newyddiadurwraig ac yn gyfwelydd yn oes newyddion ffug a deallusrwydd artiffisial, sut mae'n taflu goleuni ar y rheini mewn grym sy’n ceisio lledaenu twyllwybodaeth, a pham mae’n gyfrifoldeb ar bawb i ymateb yn feirniadol i’r naratifau a gynigir inni. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn gan y Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Troseddau a Chudd-wybodaeth.

Gwyliwch recordiadau o'r digwyddiadau blaenorol hyn.

Nid oes digwyddiadau ar y gweill.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf

Tanysgrifiwch i‘n ffrwd RSS Gwybodaeth am Fusnes i gael eich hysbysu pan fydd digwyddiadau perthnasol yn cael eu cyhoeddi.

Ffrwd RSS