Bydd y digwyddiad Rhwydwaith Arloesi Prifysgol Caerdydd hwn yn trin a thrafod y cyfleoedd sydd ar gael i gydweithio er mwyn gwella sgiliau’r gweithlu yng Nghymru.
Yr ymennydd dan warchae: sut mae llid yr ymennydd a achosir gan systemau hunanamddiffyn y corff yn achosi niwed i'r ymennydd mewn achosion o ddementia.
Sefydlwyd Grŵp Her Cymru Sero Net 2035 i ymchwilio i lwybrau i Gymru ddod yn Sero Net erbyn 2035. Gydag arferion gorau byd-eang ac ymchwil arloesol, mae arbenigwyr blaenllaw wedi mapio llwybrau ar gyfer trafnidiaeth, ynni, diogelwch bwyd, addysg a swyddi, ac os dilynir y camau hyn, dylid sicrhau gweithredu teg a natur gadarnhaol ar yr hinsawdd. Bydd Jane Davidson, Cadeirydd Grŵp Her Net Sero 2035, a chyn Weinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn Llywodraeth Cymru, yn nodi’r hyn y gall y llywodraeth, rheoleiddwyr, busnes, diwydiant a dinasyddion ei wneud i gyrraedd Sero Net erbyn 2035.
Bydd y fusionistas o Lundain, LoKkhi TeRra, yn cymryd rhan mewn gornest synau (sound-clash) unigryw, y tro hwn yng nghwmni Dele Sosimi, cyn-chwaraewr allweddellau ym mand Fela Kuti a llysgennad enwog dros Gerddoriaeth Afro-beat yn y du..