Rhaglen Camu ’Mlaen
Mae’r rhaglen yn cynnig y cyfle gwych i gael profiad o fywyd yn y brifysgol drwy ddosbarthiadau meistr academaidd a gŵyl haf y brifysgol.
Nod y rhaglen hon yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth gywir i fyfyrwyr wneud eu ffordd drwy’r broses gwneud cais yn llwyddiannus a ffynnu yn y brifysgol.
Bydd cyfranogwyr hefyd yn gallu cael gwybodaeth a mewnwelediadau gan ein myfyrwyr llysgennad sy'n rhannu eu profiadau i'ch helpu i ddewis y llwybr cywir i bob unigolyn.
Dosbarthiadau meistr
Mae'r Dosbarthiadau Meistr Camu 'Mlaen yn rhaglen academaidd ar gyfer disgyblion Blwyddyn 12 yn goleg a'r chweched dosbarth yng Nghymru a fydd yn dilyn dosbarthiadau meistr dan arweiniad tiwtor arbenigol am bedair wythnos.
Mae pob dosbarth meistr yn rhoi trosolwg eang o'r maes pwnc o ddewis, a bydd yn datblygu sgiliau cyfranogwr i ffynnu yn y brifysgol. Sgiliau fel cyfathrebu, ymchwil ac astudio, sgiliau cyflwyno a dadansoddi beirniadol.
Gallwch ddewis o'r pynciau canlynol:
- Y dyniaethau
- Y gyfraith, Gwleidyddiaeth a Gwyddorau Cymdeithasol
- Busnes ac Economeg
- Gwyddoniaeth, Technoleg a Mathemateg
- Iaith, Llenyddiaeth a Chyfathrebu
- Meddygaeth
- Deintyddiaeth
Mae ceisiadau ar gyfer 2025 ar gau
Ysgol haf
Mae'r Ysgol Haf Camu 'Mlaen yn breswylfa 3 diwrnod sy'n rhoi blas ar fywyd prifysgol mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Gwyliwch fideo o'r Ysgol Haf Camu 'Mlaen
Mae ceisiadau ar gyfer ysgol haf 2025 ar agor
Meini prawf
Er mwyn cymryd rhan yn yr dosbarthiadau meistr neu'r ysgol haf, mae’n rhaid i ddisgyblion fodloni pob un o'r meini prawf cyffredinol canlynol:
- Byw yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda côd post yng Nghymru
- Mynd i ysgol/coleg gwladol ar hyn o bryd nad yw'n codi ffioedd, ac bob amser wedi mynd i ysgol/coleg gwladol
- Ym Mlwyddyn 12 neu mae dwy flynedd o cymhwyster lefel 3 yn weddill
- Wedi sicrhau o leiaf pump TGAU graddau 9 – 4 (A*- C), gan gynnwys o leiaf C yn Iaith neu Lenyddiaeth Saesneg a Mathemateg
Mae meini prawf cymhwysedd manylach i'w gweld yma - megis gwybodaeth am feini prawf cyfranogiad ehangu ychwanegol.
Cysylltu â ni
Mae croeso mawr ichi gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect:
Tîm Ehangu Mynediad
Ymunwch â'n rhestr e-bostio am ddiweddariadau a gwybodaeth ddefnyddiol.