Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol Hyderus

Ein cenhadaeth yw grymuso pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a fabwysiadwyd neu sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd, yn ogystal â gofalwyr ifanc 14 oed a hŷn i deimlo'n hyderus am ddewis eu dyfodol a chyfleoedd ym myd Addysg Uwch.

Hyfforddiant proffesiynol

Rydyn ni’n cyflwyno sesiynau hyfforddi 2.5 awr o hyd a'r nod yw rhoi'r offer a'r wybodaeth i weithwyr proffesiynol er mwyn iddyn nhw allu cefnogi'r bobl ifanc anhygoel hyn yn well wrth iddyn nhw bontio i fyd addysg uwch.

Archebwch eich lle ar y sesiynau hyfforddi ar-lein isod:

Diwrnodau ymweld â'r campws

Bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal ddydd Gwener 13 Mehefin

Rydyn ni’n gwahodd grwpiau eich pobl ifanci Brifysgol Caerdydd am ddiwrnod llawn gweithgareddau ysbrydoledig sy’n llawn hwyl ac yn chwalu’r camsyniadau am y brifysgol a llwyddo yno.

Gall grwpiau ysgol gofrestru yma

Gall unigolion gofrestru yma

Sgyrsiau Ysbrydoledig

Rydyn ni’n ymweld ag ysgolion, elusennau a sefydliadau eraill i drefnu un neu ragor o sgyrsiau ysbrydoledig i'w pobl ifanc am eu gallu i lwyddo ym myd Addysg Uwch.

Cysylltu â ni

Cysylltu a ni i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu sesiwn.

Tîm Ehangu Mynediad