Mentora ITM
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg
Mentora ar gyfer Blwyddyn 8 a 9.
Ein prif wasanaeth yw hyfforddi myfyrwyr prifysgol i fentora dysgwyr 12-14 oed wrth iddyn nhw ddewis eu pynciau TGAU. Cynhelir sesiynau mentora naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu ar-lein, gan ddibynnu ar anghenion yr ysgol. Mae mentoriaid yn cynnal chwe sesiwn bob tymor yn ystod yr hydref a'r gwanwyn gyda grwpiau bach o ddisgyblion sy’n cael eu mentora er mwyn sicrhau dull sy'n canolbwyntio ar y dysgwr.
Mae pob sesiwn yn canolbwyntio ar thema wahanol i helpu dysgwyr i weld natur amlddisgyblaethol dysgu iaith. Mae'r themâu yn archwilio pob iaith a diwylliant ar draws y byd yn hytrach na hyrwyddo un iaith yn benodol. Mae hyn yn sicrhau, waeth beth yw proffil iaith neu ruglder dysgwr, fod rhywbeth i'w ysbrydoli a'i ysgogi. Mae ein hadnoddau yn cefnogi uchelgais y Cwricwlwm i Gymru i bob dysgwr fod yn ddinesydd moesegol a gwybodus ynghylch Cymru a'r byd. Drwy ddefnyddio iaith yn gyfrwng i archwilio'r byd o'n cwmpas, mae ein hadnoddau'n cefnogi dysgwyr 11-18 oed i ddatblygu'r sgiliau rhyngddiwylliannol y bydd eu hangen er mwyn ffynnu yn yr 21ain ganrif.
Rydyn ni hefyd yn cefnogi sgiliau llythrennedd a chymhwysedd digidol sy'n gonglfeini pwysig i'r cwricwlwm. Nod ein hadnoddau yw pwysleisio natur amlieithog ein cymunedau lleol a byd-eang drwy roi’r rhyddid i ddysgwyr archwilio'n annibynnol a datblygu cariad gydol oes at ddysgu iaith.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Lucy Jenkins yn Jenkinsl27@caerdydd.ac.uk neu 02920876630 i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Mae croeso ichi anfon ebost aton ni i gael rhagor o wybodaeth.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.