Cynllun aelodaeth llyfrgell i fyfyrwyr chweched dosbarth ac addysg bellach
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Mae croeso i aelodau o'r cyhoedd ymweld â'r rhan fwyaf o lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd.
Cewch ddefnyddio ein casgliadau llyfrau print a chyfnodolion neu fanteisio ar ein gwasanaeth galw i mewn i gyrchu e-adnoddau.
Gall myfyrwyr chweched dosbarth ac addysg bellach yng Nghymru ymuno â'r llyfrgell am ddim. Mae aelodaeth yn gadael i chi fenthyca dwy eitem ar y tro o'n casgliadau benthyciad dwy neu bedair wythnos.
Ceir rhagor o wybodaeth a manylion sut i ymuno ar ein gwefan. Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais aelodaeth a'i dychwelyd i'r Llyfrgell Iechyd yn Adeilad Cochrane ar ein Campws Iechyd, neu Lyfrgell Senghennydd yn yr Adeilad Mathemateg ac Addysg ar Gampws Cathays.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn librarymembership@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Ewch i'n gwefan i wneud cais i ymaelodi. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch:
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
- Llyfrgell Iechyd neu Lyfrgell Senghennydd