Menter llywodraethwyr ysgol
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg
Yn rhan o'n cyfleoedd gwirfoddoli dinesig rydym yn gweithio i gynyddu nifer y staff sy'n gwasanaethu ar gyrff llywodraethu ysgolion lleol.
Mae ein menter llywodraethwyr ysgol yn galluogi ysgolion i fanteisio ar ystod eang o sgiliau a phrofiadau ein staff a’u cyflwyno i’ch cyrff llywodraethu.
Os ydych chi'n awdurdod lleol, yn ysgol neu'n gadeirydd llywodraethwyr a hoffech chi hysbysebu rolau gwag eich awdurdod lleol neu lywodraethwr cymunedol gyda ni, rhowch wybod i ni trwy ebostio ein tîm Ehangu Cyfranogiad.
Ynglŷn â'r trefnydd
Tîm Ehangu Cyfranogiad yn yr adran Cyfathrebu a Marchnata sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Sue Diment yn outreach@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
I gael rhagor o wybodaeth am ein menter llywodraethwyr ysgol neu i roi gwybod i ni am rolau gwag eich awdurdod lleol neu lywodraethwr cymunedol, ebostiwch y dîm Ehangu Cyfranogiad.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.