Prosiect Darganfod
- Ionawr, Chwefror, Mawrth, Gorffennaf, Hydref, Tachwedd, Rhagfyr
- Hyd at 2 awr
Mae'r Prosiect Darganfod ar gyfer pobl ifanc awtistig sy’n 14-19 oed, a allai fod â diddordeb mewn mynychu'r brifysgol.
Drwy sesiynau bob pythefnos, bydd cyfranogwyr yn dysgu am elfennau allweddol o'r brifysgol yn ogystal â datblygu sgiliau a hyder yn y brifysgol. Bydd ein Llysgenhadon Myfyrwyr, sydd yn fyfyrwyr yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, yn bresennol ym mhob digwyddiad. Byddant ar gael i ateb cwestiynau a rhoi awgrymiadau a thriciau i gyfranogwyr ynghylch llywio bywyd myfyrwyr. Bydd cyfle hefyd i gyfranogwyr gael cymorth ychwanegol ar gyfer eu ceisiadau i'r coleg a'r brifysgol – er enghraifft gyda'u datganiadau personol.
Mae’r Prosiect Darganfod hefyd yn cynnal rhaglen haf a all gynnwys aros dros nos yn un o letyau’r brifysgol, a gweithgareddau pellach i ymgyfarwyddo â bywyd prifysgol.
Nid oes angen asesiad awtistiaeth i fynychu’r Prosiect Darganfod.
Ynglŷn â'r trefnydd
Tîm Ehangu Cyfranogiad, yr Adran Cyfathrebu a Marchnata sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn outreach@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Cynhelir y rhaglen hon bob pythefnos rhwng mis Hydref a’r Pasg, a chynhelir yr Ysgol Haf ym mis Gorffennaf. Anfonwch ebost atom i gadw lle.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
- Lleoliad i'w gadarnhau