Gweithdy Cyfansoddi Cerddoriaeth TGAU
- Ar gael ar gais
- 2-4 awr
Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau mewn gweithdy, a luniwyd i ysbrydoli eu prosiectau cyfansoddi TGAU.
Mae’r gweithgareddau gweithdy rydym yn eu cynnig yn cynnwys:
- ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer ffilmiau
- cyfansoddi gan ddefnyddio technoleg cerddoriaeth
- ysgrifennu cerddoriaeth raglennol (adrodd stori) gan ddefnyddio technegau estynedig.
Byddai digwyddiad fel arfer yn para rhwng dwy neu dair awr, ond gallwn fod yn hyblyg. Rydym yn hapus i weithio gyda chi i deilwra eich digwyddiad i’ch anghenion.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Cerddoriaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Daniel Bickerton yn bickertondi@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)29 2087 0405 i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Mae’r gweithgaredd hwn ar gael drwy drefnu gyda’r Ysgol Cerddoriaeth. Gallwch wneud cais am sesiwn drwy gysylltu â Dr Dan Bickerton drwy ebost.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
- Cardiff University School of Music, Adeilad Cerddoriaeth
- 31 Heol Corbett
- Cathays
- Caerdydd
- CF10 3EB
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.