Ewch i’r prif gynnwys

Coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf: Gwrthdaro a Chreadigrwydd

Mae Coffàu'r Rhyfel Byd Cyntaf: Gwrthdaro a Chreadigrwydd yn brosiect ymgysylltu cyhoeddus ag ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau i gynllunio a chyflwyno digwyddiadau i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Caiff y prosiect ei gydlynu gan Ganolfan Prifysgol Caerdydd ar gyfer Ymchwil Ryngddisgyblaethol mewn Opera a Drama (CIRO), ei gyd-gyfarwyddo gan Dr Clair Rowden, o'r Ysgol Cerddoriaeth a Dr Monika Hennemann, o'r Ysgol Ieithoedd Modern. Cefnogir y prosiect gan Dr Rachelle Barlow, Cymrawd Ymgysylltu Diwylliannol yn yr Ysgol Cerddoriaeth.

Yr Athro Clair Rowden

Yr Athro Clair Rowden

Professor of Musicology

Email
rowdencs@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0462
Dr Monika Hennemann

Dr Monika Hennemann

Reader in Music and Co-Director of International Engagement, Dean (International) for College of Arts, Humanities and Social Sciences

Email
hennemannm@caerdydd.ac.uk
Out of the Line
Out of the Line by Muirhead Bone

Mae'r prosiect yn cysylltu amrywiaeth eang o ymchwil perthnasol ar draws Prifysgol Caerdydd yn cynnwys:

  • Hunaniaeth Cymraeg ym Mrwydr Coedwig Mametz (Dr Toby Thacker, Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd)
  • Propoganda wrth-Almaenig mewn cerddoriaeth (Dr Monika Hennemann)
  • Theatr Rhyfel Portiwgaleg (Dr Rhian Atkin, Ysgol Ieithoedd Modern)
  • Barddoniaeth yr iaith Gymraeg o Grangetown (Dr Dylan Foster Evans, Ysgol y Gymraeg)
  • Gwrthwynebiad gwleidyddol i'r Rhyfel Mawr (Aled Eirug, Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd)
  • Sosban Fach yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (Yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg)
  • Propaganda (Dr John Jewell, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol
  • Caneuon y Rhyfel Byd Cyntaf gan Ivor Novello a Clara Novello Davies (Dr Rachelle Barlow).

Bydd y prosiect yn cryfhau'r cysylltiadau gyda phartneriaid allanol yng Nghaerdydd drwy drefnu diwrnod astudio cyhoeddus (21 Mai 2016) mewn cydweithrediad ag Opera Cenedlaethol Cymru a chyfres o ddarlithoedd amser cinio yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Symposiwm Cyhoeddus

Yn adeiladu ar bartneriaeth strategol newydd Prifysgol Caerdydd gyda Phrifysgol Leuven, ceir symposiwm cyhoeddus deuddydd rhyngwladol (11-12 Tachwedd 2016) ynglŷn â chreu cerddoriaeth a chelfyddyd yn Ewrop a'r Unol Daleithiau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd y digwyddiad yn dod ag academyddion, perfformwyr o safon ryngwladol, plant ysgol uwchradd ac aelodau o'r cyhoedd at ei gilydd. Gyda Phrifysgolion Heidelberg a Brown hefyd yn cymryd rhan, bydd y digwyddiad yn ymgysylltu gyda choffàu'r Rhyfel Byd Cyntaf o safbwynt ehangach.

Drwy ymgysylltu gyda'r amgylchedd dinesig ehangach ynglŷn â themâu gwrthdaro a chreadigrwydd, bydd y prosiect yn archwilio sut mae rhyfel a choffáu rhyfel yn cael eu portreadu mewn cerddoriaeth, llenyddiaeth, barddoniaeth ac mewn delweddau gweledol.

Mae'r holl ddarluniau wedi'u hail-gynhyrchu drwy ganiatâd Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd. Yr Arlunydd yw Muirhead Bone (1876-1953) a gafodd ei apwyntio fel artist rhyfel cyntaf swyddogol Prydain yn 1916.