Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
Mae Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg yn ganolfan o ragoriaeth academaidd sy'n fyd enwog am ei arbenigedd ymchwil a dysgu, ymgysylltu diwydiannol, datrysiadau cynaliadwy ac effaith gymdeithasol.
Mae Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg yn cynnwys saith o ysgolion academaidd sy’n gweithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i atebion cynaliadwy i rai o heriau mwyaf y byd. Mae ein dull rhyngddisgyblaethol yn hwyluso ymchwil ac addysgu, arloesedd a rhagoriaeth, ymgysylltu diwydiannol ac effaith ar gymdeithas.
Mae detholiad eang o gyrsiau gennym ar eich cyfer sydd wedi'u teilwra ar gyfer eich diddordebau a'ch uchelgeisiau gyrfaol.
Mae ein hymchwil byd-eang yn cael ei gydnabod am ei ansawdd a'i effaith.
Rydym yn Brifysgol ryngwladol flaenllaw gyda ffocws ar ddefnyddio ein sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd er budd Cymru a'r byd.