Astudio
Rydym yn falch o gynnig amgylchedd amrywiol a chroesawgar sy'n annog chwilfrydedd ac arloesedd i’n myfyrwyr, ac sy’n creu graddedigion hynod fedrus y mae galw mawr amdanynt.
Cynnig addysg i bawb
Rydym yn annog darpar fyfyrwyr o bob cefndir i ystyried gradd yng Ngholeg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Rydym yn gwneud yn siŵr bod ein pynciau’n hygyrch i bawb drwy gyfrwng ein cynllun i ehangu mynediad, ein rhaglenni sylfaen a thrwy hyrwyddo gwerth gwyddoniaeth.
Addysgu a arweinir gan ymchwil
Mae ymchwilwyr blaenllaw yn addysgu ar bob rhaglen, gan roi’r cyfle i’n myfyrwyr i ymgysylltu â’r gwaith ymchwil diweddaraf a chadw i’r funud â datblygiadau arloesol yn y maes. Caiff ein dull gweithredu – arweinir gan ymchwil – ei gryfhau drwy gyfrwng ein cysylltiadau cryf gyda diwydiant, sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr greu cysylltiadau gwerthfawr â chyflogwyr yn y dyfodol, ac i ddefnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a ddysgwyd ganddynt ar eu cwrs.
Yn ogystal, gall myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau drwy weithio gyda staff academaidd ar brosiectau go iawn. Er enghraifft, ystyrir bod ein lleoliadau ymchwil dros yr haf, sy’n rhan o Raglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Caerdydd (CUROP), yn un o'r cynlluniau ymchwil mwyaf i israddedigion yn y DU.
Canolbwyntio ar faterion byd-eang
Mae gan bob un o'n meysydd pwnc rôl hanfodol wrth ddatrys heriau byd-eang. Mae ein myfyrwyr yn gweithio gyda phroblemau’r byd go iawn, sy’n eu helpu i ddatblygu’r wybodaeth y gellir ei chymhwyso i ddatrys problemau o fewn eu maes a thu hwnt.
Cyfleusterau modern
Ein nod yw rhoi profiad addysgol o ansawdd uchel i’n holl fyfyrwyr, a dyna pam yr ydym yn buddsoddi mewn cyfleusterau addysgu ar draws y Coleg. Mae ein darlithfeydd, llyfrgelloedd a mannau addysgu eraill yn meddu ar gyfleusterau modern sy’n ein galluogi i recordio darlithoedd, cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp digidol, a rhannu deunydd addysgu.
Gweithio gyda diwydiant
Mae llawer o'n Hysgolion yn cynnig rhaglenni sydd â blwyddyn mewn diwydiant, fel bod myfyrwyr yn cael profiad o weithio mewn amgylchedd proffesiynol. Rydym yn cynnig rhaglenni Meistr integredig yn y rhan fwyaf o ddisgyblaethau sydd wedi’u hachredu gan sefydliadau proffesiynol perthnasol.
Menter gyffrous a ddatblygwyd gan Brifysgol Caerdydd ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac arweinwyr y diwydiant yw’r Academi Meddalwedd Genedlaethol, a’i nod yw mynd i'r afael â'r prinder cenedlaethol o raddedigion rhaglennu a pheirianneg meddalwedd medrus. Mae myfyrwyr yr Academi yn elwa ar ymgysylltu’n helaeth â diwydiant a chanolbwyntio ar brosiectau bywyd go iawn, gan olygu eu bod yn gallu pontio ar unwaith, ac yn ddiffwdan, i'r gweithle fel peirianwyr meddalwedd masnachol.
Cyfle i ehangu eich gorwelion
Un o'r rhesymau pam mae ein graddau mor werthfawr fel modd o baratoi myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol yw oherwydd ein bod yn cynnig llawer o brofiadau addysgol ychwanegol i gyfoethogi'r dysgu.
Mae llawer o'n hysgolion yn cynnig rhaglenni gyda blynyddoedd astudio dramor. Mae hyn yn golygu bod ein myfyrwyr yn cael cyfle i weld eu pwnc o safbwynt rhyngwladol, a’u bod yn aml yn gallu cynnal ymchwil mewn labordai byd-eang.
Mae Canolfan Cyfleoedd Byd Eang y Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i fyfyrwyr weithio, gwirfoddoli neu astudio dramor. Mae’r Cynllun Ieithoedd i Bawb yn agored i bob un o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, gan alluogi myfyrwyr i ddysgu iaith ochr yn ochr â'u gradd.
Mae dysgu mewn amgylchedd ymchwil yn golygu bod y myfyrwyr yn rhyngweithio gydag ymchwilwyr sy’n gwthio ffiniau gwybodaeth yn eu disgyblaethau.