Ymchwil ac arloesi
O gefnogi cymunedau sy'n wynebu trychinebau naturiol a diwallu anghenion ynni byd-eang i wella gofal iechyd, mae gan ymchwil yng Ngholeg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg y pŵer i ddatrys problemau byd-eang a gwella ansawdd ein bywydau.
Ymchwil blaenllaw sy’n gwella bywyd bob dydd
Mae ein ysgolheigion blaenllaw yn defnyddio hanfodion gwyddoniaeth a pheirianneg i ychwanegu gwerth at fywydau pobl. Dyma rai enghreifftiau o sut mae ein gwaith ymchwil wedi cael effaith ar y gymuned fyd-eang:
- canfod bod aur yn gatalydd sy'n gallu arbed bywydau
- gwella iechyd drwy gymhwyso ein harbenigedd mathemategol i wella’r broses o reoli cleifion a gostwng amseroedd aros yn y GIG
- glanhau'r amgylchedd drwy ddod o hyd i ffyrdd mwy diogel o gadw gwastraff niwclear
- creu mynegai unigryw o rywogaethau’r byd gan ddefnyddio data mawr i helpu i arbed fflora a ffawna rhag difodiant.
Wynebu heriau'r dyfodol yn uniongyrchol
Mae Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg yn galluogi myfyrwyr a staff ymchwil ar draws ein pynciau i weithio gyda'i gilydd ar heriau byd-eang y dyfodol. Un o'r ffyrdd yr ydym yn gwneud hyn yw drwy gyfrwng Sefydliadau Ymchwil y Brifysgol, a sefydlwyd mewn meysydd arbenigedd a chryfder traws-ddisgyblaethol i fynd i’r afael â heriau penodol.
Mae’r Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data, er enghraifft, wedi’i ffurfio er mwyn cynnal ymchwil sylfaenol i agweddau ar reoli, dadansoddi a dehongli meintiau enfawr o wybodaeth ar gyfer busnesau ym maes y gwyddorau cymdeithasol, gwyddorau biolegol a bywyd, gwyddorau cyfrifiadurol a pheirianneg.
Mae staff ar draws ein Hysgolion hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch, Sefydliad Catalysis Caerdydd, Sefydliad Ymchwil Systemau Ynni, Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy a’r Sefydliad Ymchwil Dŵr.
Ein hamgylchedd ymchwil
Mae ein hamgylchedd ymchwil yn annog arloesedd, entrepreneuriaeth a meddwl gwreiddiol, traws-ddisgyblaethol.
Rydym yn cynnig rhaglenni hyfforddiant pwrpasol i bob un o'n staff ymchwil, p'un a ydynt ar ddechrau eu gyrfaoedd neu ar lefel mwy profiadol. Rydym hefyd yn cynnig arian a grantiau i helpu ein ymchwilwyr i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael.
Mae ein staff ymchwil yn elwa ar adnoddau ac offer rhagorol, o’n hawyr artiffisial yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru i Labordy Daear Cymru ar gyfer Elfen Trace a Chemeg Isotop.
Ein cyfleusterau
Pennawd ar gyfer y llun: Offer yn y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
Rydym yn buddsoddi mewn cyfleusterau newydd fydd yn dod ag ymchwilwyr ar draws ffiniau disgyblaethol yn nes at ei gilydd, yn ogystal â phontio'r bwlch rhwng ymchwil a diwydiant. Er enghraifft, ar hyn o bryd rydym yn buddsoddi £77m yn ein Cyfleuster Ymchwil Drosiadol, fydd yn gartref i Sefydliad Catalysis Caerdydd a’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn rhan o Gampws Arloesedd y Brifysgol. Mae gan y ddau sefydliad gysylltiadau agos gyda'r diwydiant a bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi gwell ymgysylltu gyda'r sector preifat i gynhyrchu ffrydiau refeniw masnachol o’n gwaith ymchwil.
Athena Swan
Mae’r Brifysgol yn aelod o Athena Swan, sy’n cydnabod ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae gan nifer o’n Ysgolion wobr efydd ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn gartref i rwydwaith Menywod Caerdydd ym Maes Gwyddoniaeth. Ei ddiben yw cefnogi gwyddonwyr benywaidd ar draws y Brifysgol.
Rydym yn aelod o Athena Swan, sy'n cydnabod ein hymroddiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth.