Ewch i’r prif gynnwys

Newyddion

Pecyn trosi Land Rover yn cael ei ryddhau yng Ngŵyl Glastonbury

24 Mehefin 2022

Bydd pecyn 'galw heibio' sy'n trosi Land Rover Defenders yn gerbydau cwbl drydan yn cael ei ddefnyddio ar draws Worthy Farm y penwythnos hwn.

Solar Panels and Wind Turbines at sunset

Yr Athro Marc Pera Titus: Batris Llif Rhydocs

22 Mehefin 2022

Bydd ffordd newydd o storio ynni yn helpu i gadw'r golau ynghynn

Archwilio cineteg y cylch seismig

20 Mehefin 2022

Ymchwil newydd yn ystyried a all smentiad cwarts hwyluso gwella namau

Close up photo of semiconductor chip being manipulated with tweezers in clean room

Dyfarniad Ymchwilydd Newydd i ddatblygu gwell synwyryddion delwedd feddal ar gyfer diagnosteg feddygol

20 Mehefin 2022

Mae Dr Bo Hou o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi derbyn Dyfarniad Ymchwilydd Newydd uchel-ei-fri gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) i ymchwilio i welliannau i synwyryddion delwedd feddal sy’n hanfodol erbyn hyn mewn sawl maes o’n bywydau bob dydd.

Outside Novartis exhibition space with 36kW building integrated photovoltaic (BIPV) system in Basel, Switzerland

Myfyrwyr MSc o Ddylunio Amgylcheddol Adeiladau ac Adeiladau Mega Cynaliadwy yn ymweld â Zurich, y Swistir

17 Mehefin 2022

Cafodd y myfyrwyr eu harwain drwy dechnegau technegol ac ystafelloedd planhigion rhai o'r adeiladau mwyaf trawiadol a blaengar yn y ddinas. 

Cydnabyddiaeth swyddogol i gwrs seiberddiogelwch

16 Mehefin 2022

Cwrs seiberddiogelwch i ôl-raddedigion wedi'i ardystio'n llawn gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn y DU

Dr Pete Barry, Dr Angharad Jones and Dr John Harvey

Bydd arweinwyr ymchwil y dyfodol yn mynd i'r afael â phroblemau byd-eang ac yn masnacheiddio datblygiadau arloesol

15 Mehefin 2022

Mae Dr Angharad Jones, Ysgol y Biowyddorau, Dr Pete Barry o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a Dr John Harvey, a fydd yn ymuno â'r Ysgol Mathemateg yn fuan, wedi ennill Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).

was show 22

Sioe Myfyrwyr 2022 Ysgol Pensaernïaeth Cymru’n lansio ar 24 Mehefin

13 Mehefin 2022

Bydd Sioe Myfyrwyr 2022 Ysgol Pensaernïaeth Cymru’n lansio ag arddangosfa ffisegol ar 24 Mehefin, wedi’i hategu gan Ŵyl Ddigidol rhwng 20 a 24 Mehefin.

Mae gwyddonwyr yn rhoi esboniad am y tswnami eithriadol a ddigwyddodd yn Tonga

13 Mehefin 2022

Mae mecanwaith newydd yn disgrifio sut y teithiodd y tswnami yn llawer pellach, yn gyflymach o lawer ac am hirach o lawer ar ôl i’r llosgfynydd Hunga Tonga-Hunga Ha'apai ffrwydro.

Cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer rhagor o brosiectau ynni gwynt alltraeth

9 Mehefin 2022

Ysgol ar fin datblygu rhwydwaith doethurol newydd i ddatblygu technolegau ynni adnewyddadwy mwy effeithlon a dibynadwy