Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil sy'n cael effaith fyd-eang

Mae ein hymchwil yn cael effaith bellgyrhaeddol ar fywydau pobl o gwmpas y byd.

Gweithio gyda'n gilydd

Rydym yn gweithio gydag ymchwilwyr sydd wedi’u lleoli dramor, llywodraethau, cyrff anllywodraethol ac elusennau i sicrhau bod ein darganfyddiadau a’n harloesedd yn cael eu cymhwyso a’u rhoi ar waith yn rhyngwladol.

Mae ymchwilwyr mewn cemeg, er enghraifft, yn ymchwilio i ffyrdd newydd o dynnu halen o ddŵr er mwyn diogelu cyflenwad dŵr byd-eang. Mae penseiri wrthi’n cynllunio temlau newydd i warchod crefftwaith a gwybodaeth hynafol yn India gyda Sefydliad Celf Sree Kalyana Venkateshwara Hoysala ac mae peirianwyr yn gweithio gydag Airbus i wella diogelwch awyrennau pan fo mellt.

Cefnogi staff ymchwil

Mae staff ymchwil rhyngwladol yn allweddol i'n nod o helpu i fynd i'r afael â phroblemau byd-eang allweddol, gydag ymchwil ryngddisgyblaethol ac arloesol. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein staff ymchwil drwy raglenni hyfforddi pwrpasol, megis Crwsibl Cymru, cyfleoedd ariannu, a chymorth grant ymchwil. Rydym hefyd yn darparu arian ar gyfer cymrodyr ymweliadol a fyddai’n hoffi cydweithio gyda’n ymchwilwyr.