Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd i fyfyrwyr

Ein nod yw cynnig profiad rhyngwladol i bob un o'n myfyrwyr, a bydd pob profiad o fudd i’w datblygiad personol a phroffesiynol.

Ysgolion haf

Bob blwyddyn rydym yn cynnal amrywiaeth o Ysgolion Haf Rhyngwladol ar gyfer israddedigion neu raddedigion uwch, sy’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth am faes pwnc penodol, a chael profiad ymarferol.

Watch our summer schools film.

Myfyrwyr rhyngwladol

Rydym yn annog myfyrwyr rhyngwladol o bob cefndir i gael profiad o Gaerdydd fel lle i fyw ac astudio ynddo, ac rydym yn deall y gallai eu hanghenion fod yn wahanol i anghenion myfyrwyr y DU. Rydym yn cynnig addysgu Saesneg wedi’i deilwra, yn ogystal â rhaglen Sylfaen Saesneg, sy’n flwyddyn mewn hyd. Yn ogystal, rydym yn ganolfan prawf IELTS y Cyngor Prydeinig.

Myfyrwyr ymchwil

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer ymchwil ôl-raddedig a ariennir. Mae'r Coleg wedi llwyddo i gael gafael ar arian i arwain neu gymryd rhan mewn nifer o fentrau hyfforddi doethurol.

Er enghraifft, ar hyn o bryd mae Sefydliad Catalysis Caerdydd yn arwain Canolfan Hyfforddiant Doethurol mewn catalysis ac adwaith peirianneg. Mae gennym hefyd fentrau hyfforddiant doethurol mewn gwyddor a thechnoleg diemwnt, olew a nwy, y Ddaear a gwyddor yr amgylchedd a gwybodeg dŵr.

Caiff pob myfyriwr ôl-raddedig eu cefnogi gan yr Academi Ddoethurol, sy’n ganolfan rhagoriaeth ar gyfer hyfforddiant a datblygu sgiliau. Rydym yn croesawu darpar ymgeiswyr PhD rhyngwladol i fwrw golwg ar y cyfleoedd sydd ar gael yn ein hysgolion, gan gynnwys yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer cyllid.