Cydweithio gyda ni
Rydym yn cydweithio gyda diwydiant i droi ein gwaith ymchwil yn atebion ymarferol sy'n cael effaith cymdeithasol ac economaidd yn ogystal â chreu cyfleoedd gwaith i'n graddedigion.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cwmnïau ac mae nifer o enghreifftiau o'n llwyddiannau ymchwil cydweithredol, ein gwaith datblygu a'n partneriaethau strategol hir dymor.
Dyma rai enghreifftiau o sut gallwn ni weithio gyda chi:
- Cyfnewid gwybodaeth arbenigol a chydweithio ar brosiectau ymchwil
- Galluogi mynediad i'n cyfleusterau safonol, yn cynnwys y Labordy Mellt Morgan-Botti a Sefydliad Catalysis Caerdydd
- Datrys problemau ac ymgynghoriaeth.
- Helpu dod â chynhyrchion newydd i'r farchnad.
- Gwella cynhyrchion a phrosesau sydd eisioes yn bodoli.
Gwyliwch ffilm cyfrwng Saesneg am bartneriaeth arobryn rhwng Ysgol Peirianneg y Coleg, Ysgol Pensaernïaeth Cymru ac Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Caerdydd a gynyddodd cynhyrchaeth ac a leihaodd costau'r cwmni ceir, Ford.