Ymchwil ac arloesi
Rydym yn cystadlu ar lefel byd-eang ym maes ymchwil y dyniaethau, gyda chryfderau ym mhob agwedd o fywyd cymdeithasol a diwylliannol.
Mae ymchwil a chydweithio ym mhob un o 11 o Ysgolion Academaidd y Coleg yn llywio arfer a pholisi yn uniongyrchol ac yn ein helpu ni i ddeall a ffurfio ein dyfodol.
Mae gwaith ymchwil y Coleg yn canolbwyntio ar rai o'r meysydd mwyaf hir sefydledig o ymdrech academaidd dynol fel hanes, y gyfraith a cherddoriaeth. Rydym yn darparu cronfa wybodaeth a ddiweddarir yn barhaus ar gyfer y proffesiynau, yn holi cwestiynau am ddatblygiad ein cymdeithasau ac archwilio materion cyfoes brys.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi galw ar ein harbenigwyr i adolygu dyfodol y diwydiannau digidol, llywio'r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), a rhoi cyngor ar isafswm prisiau alcohol.
Mae ymchwil y Coleg wedi llywio, ymhlith pethau eraill, strategaeth gwrthderfysgaeth Prevent y Swyddfa Gartref, helpu plant yn eu harddegau yn Affrica i siarad am y tro cyntaf am eu profiadau am fyw gyda HIV/AIDS a ffurfio fframwaith cyfreithiol eglwysi Anglicanaidd. Mae hefyd wedi cael dylanwad mawr ar bolisi ac arfer bwyd ysgol yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Mae nifer o Ysgolion a Chanolfannau'r Coleg yn cael eu cydnabod yn awdurdodau yn eu meysydd priodol, gan gynnwys yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Ysgol Busnes Caerdydd, yr Ysgol Gynllunio a Daearyddiaeth, a Chanolfan Llywodraethiant Cymru.
Mae'r Coleg yn ymroi i ymgysylltu â chymunedau Cymru a chymunedau cenedlaethol a rhyngwladol yn ei waith. Mae ei gysylltiadau â'r Gymuned leol wedi helpu plant ysgol a thrigolion yng Nghaerau a Threlái yn Ne Cymru i ailgysylltu â'u hanes. Yn ogystal, mae'r Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol yn helpu i lywio dyfodol newyddion lleol gyda gwefannau poblogaidd Cymraeg Pobl Caerdydd a Ll@is y Maes a mentrau fel Digidol ar Daith.
Themâu ymchwil
Mae'r Coleg yn mynd ar drywydd ymchwil arloesol, rhyngddisgyblaethol ar draws ei Ysgolion, yn cydweithio gydag ymchwilwyr yn y Brifysgol ac yn allanol. Mae'n denu dyfarniadau ymchwil mawr gan gynghorau cyllido ac mae ei academyddion yn cael eu comisiynu'n rheolaidd i gyflawni prosiectau mawr ar gyfer sefydliadau a diwydiannau yn y Deyrnas Unedig ac o gwmpas y byd.
Mae gan y Colegau gryfderau ym mhob maes o ddiwylliant, cymdeithas, gwleidyddiaeth a'r economi. Mae'r rhain yn cynnwys themâu fel:
- Yr economi ddigidol
- Llywodraethiant a Datganoli
- Iaith ac ieithyddiaeth
- Diwylliant a hanes Cymru
- Bancio a chyllid
Mae SPARK yn diweddaru’r model parc gwyddorau, sy’n caniatáu ymchwilwyr i weithio’n greadigol gyda phartneriaid ar heriau’r gymdeithas.