Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau ôl-raddedig

Mae ein cyrsiau ôl-raddedig ar gael yn Gymraeg neu fel cyrsiau dwyieithog.

Dyma gyfle i wella eich dealltwriaeth o'r pwnc a meithrin sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa.

Welsh students

Doethuriaethau

Mae'n bosibl astudio gradd doethur yn y Gymraeg neu'n ddwyieithog ym mron pob pwnc.

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhoi cyllid i fyfyrwyr i ddilyn PhD drwy'r cynllun Ysgoloriaeth Ymchwil. Maen nhw hefyd yn cynnig cefnogaeth a hyfforddiant o safon uchel i ymchwilwyr newydd.

Os hoffech wneud ymchwil a dod yn arbenigwr yn eich maes, gallwch gael rhagor o wybodaeth am Ysgoloriaethau Ymchwil a gynigir gan y Coleg yma:

Ysgoloriaethau Ymchwil

Addysg Gychwynnol Athrawon

Rydyn ni'n darparu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant athrawon drwy'r cwrs ôl-raddedig blwyddyn, y Dystysgrif Addysg Ôl-raddedig (TAR).

Rydyn ni hefyd yn cynnig y cwrs hwn yn rhan-amser, neu tra byddwch yn gweithio, dros ddwy flynedd.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hyfforddi athrawon a'r amrywiaeth o grantiau, cynlluniau a chyrsiau sydd ar gael, ewch i brif wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

Addysg Gychwynnol Athrawon

Dysgu'r Dyfodol

Mae Dysgu'r Dyfodol yn cynnig sesiynau mentora a phrofiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn bod yn athrawon ysgol (ym mhob pwnc ac eithrio BA Addysg).

Mae'r cynllun yn agored i fyfyrwyr o unrhyw bwnc gradd ac ar unrhyw gam o'u gradd (Blwyddyn 1, 2, 3, neu ôl-raddedig). Bydd cyfranogwyr sy'n cwblhau'r cynllun yn derbyn £100.

Mae myfyrwyr yn cael eu paru â mentoriaid ar gyfer tri sesiwn ar-lein un i un yn ystod tymor yr haf. Yn ogystal, caiff cyfranogwyr gyfle i gael dau ddiwrnod o brofiad gwaith mewn ysgol naill ai ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf.

Bydd y mentoriaid yn athrawon ar ddechrau eu gyrfa yng Nghymru sydd wedi cwblhau eu blwyddyn gynefino (NQT).

Mwy o wybodaeth am Ddysgu'r Dyfodol

Darganfod mwy

Visit Research Scholarship Individuals to learn more about the experiences of those who have pursued Welsh-medium postgraduate studies thanks to scholarships from the Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cysylltwch ag Elliw Iwan, Swyddog Cangen Caerdydd os oes gennych unrhyw gwestiynau.