Tystysgrif Sgiliau Iaith
Dangoswch eich hyfedredd iaith Gymraeg i gyflogwyr gyda Thystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Gall sgiliau dwyieithog wella eich rhagolygon gwaith yn fawr ac agor llu o gyfleoedd mewn gwahanol ddiwydiannau, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae'r Tystysgrif Sgiliau Iaith yn dystysgrif sy'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan lawer o gyflogwyr gan ei bod yn dynodi pwysigrwydd hyfedredd iaith.
Mae'r dystysgrif ar gael yn rhad ac am ddim i holl fyfyrwyr a staff y brifysgol a bydd Tiwtor Sgiliau Iaith yn cynnig cymorth, gan ganolbwyntio ar ofynion y tasgau llafar ac ysgrifenedig.
Ers ei gyflwyno yn 2013, mae'r Dystysgrif wedi ennill cydnabyddiaeth eang. Bob blwyddyn, mae cannoedd o fyfyrwyr ledled Cymru yn astudio ar gyfer y cymhwyster hwn ac rydym am sicrhau eich bod yn cael cyfle i astudio ar gyfer y Dystysgrif fel y gallwch gystadlu â'ch cyfoedion a chynyddu eich siawns o gael swydd.
Nod y Dystysgrif
Nod y Dystysgrif yw sefydlu dull cydnabyddedig o arddangos galluoedd ieithyddol myfyrwyr, gan eu galluogi i ddarparu prawf i gyflogwyr o'u gallu i gyfathrebu'n hyderus ac yn broffesiynol yn Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael prawf o'r canlynol:
- sgiliau Cymraeg
- y gallu i weithio'n hyderus ac yn broffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn amrywiaeth o amgylcheddau a chyd-destunau
Camau nesaf a chefnogaeth
Er mwyn cael y dystysgrif, rhaid i fyfyrwyr gwblhau:
- tasg cyflwyniad llafar
- prawf ysgrifenedig yn cynnwys tair tasg
Mae tiwtor y Dystysgrif ar gael ar gyfer cymorth un-i-un, a chynhelir sesiynau paratoi anffurfiol trwy gydol y flwyddyn academaidd.
Mae mynychu'r sesiynau yn gyfle gwych i sicrhau eich bod yn paratoi'n drylwyr ar gyfer eich asesiadau ac yn gwneud eich gorau. Yn ogystal, gall y sesiynau hefyd helpu i gefnogi astudiaethau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg. Nod y ddarpariaeth yw bod yn hyblyg fel y gallwch fynychu'r dosbarthiadau ochr yn ochr â'ch astudiaethau gradd neu'ch swydd.
Gwybodaeth bellach a chofrestru
I ddarganfod mwy am y Dystysgrif Sgiliau Cymraeg yng Nghaerdydd, cysylltwch ag Elliw Iwan, swyddog cangen Caerdydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae'r cyfnod cofrestru ar gyfer eleni bellach ar gau a bydd y gofrestr ar gyfer 2024/25 yn agor ym mis Medi 2024.
Mae adnoddau dysgu ychwanegol hefyd ar gael ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.