Ewch i’r prif gynnwys

Ymuno â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae aelodaeth y Coleg yn rhad ac am ddim ac mae aelodau'n derbyn gwybodaeth am weithgareddau, datblygiadau a chyfleoedd sy'n codi o'n gwaith.

Dau aelod o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Darpar fyfyrwyr

Bydd pob aelod o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn derbyn rhif aelodaeth. Mae angen y rhif aelodaeth hwn wrth wneud cais am ysgoloriaethau, sy'n werth hyd at £3,000.

Bydd bod yn aelod hefyd yn eich galluogi i dderbyn diweddariadau rheolaidd am ein hysgoloriaethau, digwyddiadau a ffeiriau UCAS.

Gallwch ymuno â'r Coleg drwy gofrestru eich manylion ar y ffurflen hon ar brif wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Myfyrwyr

Drwy ddod yn aelod, bydd myfyrwyr yma yng Nghaerdydd yn dod yn aelodau o Gangen y Brifysgol hon a bydd cyfle i:

  • ddefnyddio Porth Adnoddau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ar gyfer adnoddau addysgu digidol Cymraeg a dwyieithog i gefnogi eich astudiaethau yn y Gymraeg
  • archwilio a dilyn yr holl fodiwlau cyfrwng Cymraeg ar safle Blackboard y Coleg
  • ymuno â'n cymuned ddeinamig o fyfyrwyr sy'n astudio'r un pwnc mewn prifysgolion amrywiol ledled Cymru
  • gweithio tuag at ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg gan y Coleg

Bydd aelodau hefyd yn derbyn y newyddion diweddaraf am ysgoloriaethau, cynadleddau, a chyfleoedd a gweithgareddau a gynigir gan y Coleg.

Ymuno â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ein staff

Mae ein cynllun aelodaeth yn agored i'r holl staff academaidd ac academaidd sydd am ymuno â'r Coleg.

Os ydych yn cyfrannu at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg neu amcanion a gwaith y Coleg fel darlithydd, gallwch ymuno fel Darlithydd Cyswllt.

Nod y cynllun hwn yw sefydlu cymuned fywiog o athrawon sy'n cyfrannu at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn prifysgolion a chefnogi amcanion a gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae manteision bod yn rhan o'r cynllun yn cynnwys:

  • bod yn rhan o gymuned cyfrwng Cymraeg amlddisgyblaethol a chyfleoedd i rwydweithio gyda darlithwyr eraill
  • derbyn pecyn cynefino a chylchlythyr y Coleg
  • gallu gwneud cais am grantiau'r Coleg
  • gallu cael mynediad at raglen hyfforddi ar gyfer darlithoedd
  • cael gwahoddiad i gynhadledd flynyddol y darlithwyr cysylltiol
  • ymgeisio am wobrau blynyddol y Coleg
  • derbyn cyfleoedd marchnata amrywiol a chefnogaeth berthnasol

Am fwy o wybodaeth ac i ymuno â'r Gangen, cysylltwch ag Elliw Iwan, Rheolwr Cangen Caerdydd