Ewch i’r prif gynnwys

Ein tîm cangen a chyfarfodydd

Rydyn ni'n annog pob aelod o staff, o wasanaethau academaidd a phroffesiynol, a myfyrwyr i ymuno â'n Cangen Caerdydd.

Mae hyn yn arbennig o bwysig i'r rhai sy'n ymwneud â darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac i fyfyrwyr sy'n dewis astudio rhannau neu eu cwrs gyfan yn Gymraeg.

Cynhelir tri chyfarfod cangen bob blwyddyn academaidd i sicrhau bod llais y gymuned academaidd yn cael ei ystyried wrth ddatblygu cynlluniau academaidd cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.

Pwyllgor y Gangen

Mae'r pwyllgor yn cynnwys yr aelodau canlynol:

  • Cadeirydd Cangen Caerdydd: Dr Siôn Jones
  • Swyddog Cangen: Elliw Iwan
  • Is-gadeirydd y Gangen: Gwyneth Hayward
  • Cynrychiolaeth Myfyrwyr: Is-lywydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd dros y Gymraeg, Catrin Edith Parry.

Dyddiadau'r Fforwm a'r Cyfarfod Cangen Blynyddol

FforwmDyddiadAmser
Cyfarfod Blynyddol y Gangen29 Ionawr 2025 (Ar-lein)
30 Ebrill 2025 (Canolfan Bywyd y Myfyrwyr)
12:00 (hanner dydd)
Fforwm MyfyrwyrI'w gadarnhau 
Fforwm Myfyrwyr Ôl-raddedigI'w gadarnhau  

Am fwy o wybodaeth am ymuno â'r gangen, cysylltwch ag Elliw Iwan, Swyddog Cangen Caerdydd.

Llysgenhadon Myfyrwyr

Mae gennym lysgenhadon myfyrwyr, p'un ai'r Gymraeg yw eu hiaith gyntaf neu ail iaith, i'n helpu i gyfathrebu â phobl am:

  • astudio yn Gymraeg
  • profiadau o astudio mewn Prifysgol Gymraeg
  • ysgoloriaethau sydd ar gael i'r rhai sy'n dymuno astudio yn y Gymraeg
  • undebau
  • digwyddiadau a chyfleoedd cymdeithasu yn Gymraeg

Nod y Coleg yw cefnogi'r llysgenhadon i ddatblygu sgiliau gwerthfawr a fydd o fudd wrth chwilio am gyfleoedd gwaith yn y dyfodol.

Byddan nhw hefyd yn cael cyfle i rannu eu profiadau ar ein gwefan a'n llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Bob blwyddyn, byddan nhw'n cael cyfle i'n cynrychioli yn Eisteddfod yr Urdd a'r Genedlaethol, yn ogystal ag ymweld ag ysgolion ochr yn ochr ag aelod o dîm marchnata'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ymgysylltu â myfyrwyr.

Darganfod mwy

Os ydych chi eisiau dysgu mwy am fod yn llysgennad yng Nghaerdydd, ewch i dudalennau InstagramFacebook Coleg Cymraeg Cenedlaethol.